大象传媒

Iechyd: Protest yn erbyn toriadau yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdystwyr yn Y Fflint
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protestwyr y tu allan i gyfarfod o'r bwrdd iechyd pan gafodd y newidiadau eu cadarnhau ym mis Ionawr

Mae protestwyr sy'n gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gael gwared 芒 llawdriniaethau'r fron yn Ysbyty Llandudno wedi cynnal gorymdaith drwy'r dref ddydd Sadwrn.

Daeth cynrychiolwyr grwpiau o drefi eraill y gogledd sy'n protestio yn erbyn toriadau'r bwrdd iechyd yn teithio i Landudno i gymryd rhan yn y brotest, ac fe ddaeth rhwng 300-400 o bobl ynghyd ar gyfer y digwyddiad.

Cafodd y brotest ei threfnu gan Gr诺p Gweithredu Ysbyty Llandudno oedd am gydweithio gyda grwpiau eraill i ehangu'r brotest.

Mae nifer o wleidyddion gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru David Jones wedi bod yn annerch y protestwyr.

Newid gwasanaethau

Honnodd Carol Marubbi, is-gadeirydd Gr诺p Gweithredu Ysbyty Llandudno, fod y bwrdd iechyd wedi addo na fyddai gwasanaethau'r fron yn cael eu symud o Ysbyty Landudno.

"Ond fe wnaeth gwasanaethau'r fron ddod i ben yn yr ysbyty ryw bythefnos yn 么l heb unrhyw ymgynghoriad.

"Fe fyddwn ni'n protestio yn erbyn y penderfyniad hwn ond rydym wedi penderfynu gwahodd grwpiau eraill fel y gallwn uno i brotestio yn erbyn holl doriadau'r bwrdd ar draws gogledd Cymru."

Bydd cynrychiolwyr grwpiau protest o Flaenau Ffestiniog, Prestatyn, Y Rhyl, Llangollen, Y Fflint, Wrecsam, Rhuthun a Bae Colwyn yn cymryd rhan yn yr orymdaith ddydd Sadwrn.

Anhapus

Yn dilyn cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr ddydd Iau na fydden nhw'n cyfeirio cynlluniau'r bwrdd iechyd i newid gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru i'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.

Oherwydd penderfyniad y cyngor, mae'n edrych yn debyg y bydd nifer o ysbytai cymunedol ar draws y gogledd yn cau, ac y bydd gwasanaethau gofal dwys o fabanod newydd anedig yn symud o ogledd Cymru i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Dywedodd Mrs Marubbi ei bod yn anhapus iawn gyda'r penderfyniad hwn fyddai'n cael ei drafod ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Bydd newidiadau cenedlaethol i'r trefniadau ar gyfer hyfforddi meddygon iau yn effeithio ar y staff meddygol preswyl sy'n darparu gwasanaeth dros nos yn Ysbyty Llandudno.

"Yn lle bydd gwasanaeth dros nos ar gyfer cleifion meddygol yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau - Gogledd Cymru.

"Ond fe fydd hyn yn cyfyngu ar ein gallu i roi gofal diogel i gleifion yn union ar 么l llawfeddygaeth, ac o ganlyniad fe fydd nifer bychan o gleifion sydd angen llawfeddygaeth y fron yn cael eu llawdriniaethau yn Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Glan Clwyd.

"Ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau eraill y fron yn Ysbyty Llandudno, gan gynnwys clinigau, profion diagnostig a Bron Brawf Cymru.

"Mae Ysbyty Llandudno yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn narpariaeth gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru ar gyfer y boblogaeth leol a'r ardal ehangach, a bydd nifer o ddatblygiadau sylweddol yn digwydd ar y safle.

"Rydym yn bwriadu defnyddio ward Maesdu fel ward achosion dydd, ac o ganlyniad bydd mwy o lawdriniaethau yn yr ysbyty.

"Rydym hefyd yn gwneud gwelliannau i'r fferyllfa. Mae'r gwaith wedi cychwyn i ddarparu'r Uned M芒n Anafiadau yn Llandudno a bydd datblygiadau i'n gwasanaeth Rhiwmatoleg ar y safle yn creu cyfleusterau ar gyfer achosion dydd i'r boblogaeth leol a chanolfan addysg yn benodol i gleifion, y cyntaf o'i bath yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol