大象传媒

Wrecsam hefyd yn mynd i Wembley

  • Cyhoeddwyd
Clwb P锚l-droed WrecsamFfynhonnell y llun, Other

Gainsborough Trinity 2-1 Wrecsam (3-4 ar gyfanswm goliau)

Gyda Wrecsam ar y blaen o 3-1 wedi'r cymal cyntaf yn y Cae Ras, roedd y gobeithion yn uchel y byddai'r Dreigiau yn llwyddo yn rownd gynderfynol Tlws yr FA.

Gyda Chaerdydd a Chasnewydd yn cyrraedd Wembley y tymor diwethaf ac Abertawe yn disgwyl eu cyfle ddydd Sul, gobaith Wrecsam oedd bod y pedwerdydd t卯m o Gymru i chwarae ym mhencadlys p锚l-droed Lloegr o fewn 12 mis.

Dyma fydd taith gyntaf Wrecsam i Wembley - fe enillon nhw Dlws y Gynghrair yn 2005 pan oedd y rownd derfynol yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.

Pan aeth Wrecsam ar y blaen o droed Danny Wright gydag ergyd wych, roedd hi'n ymddangos bod yr ornest drosodd i bob pwrpas, ond o fewn eiliadau bron fe arweiniodd dryswch yn amddiffyn Wrecsam am g么l i'r t卯m cartref.

Cyfartal ar y diwrnod felly, ond Wrecsam yn parhau 芒'r fantais dros y ddau gymal, ac roedd hynny'n bwysig.

Gyda phum munud yn weddill, fe sicrhaodd Gainsborough y byddai'n ddiweddglo nerfus iawn i d卯m Andrew Morrell gan ei gwneud hi'n 2-1 ar y diwrnod.

Y cyfan oedd angen i Wrecsam wneud oedd peidio ildio eto, ond fe gafodd y t卯m cartref ddau gyfle gwych yn yr eiliadau olaf.

Arbediodd Chris Maxwell dau gynnig da, ac fe gliriwyd un arall oddi ar y llinell wrth i'r Dreigiau ddal eu gafael ar y fantais o drwch blewyn ac fe ddaeth ochenaid fawr o ryddhad gan gefnogwyr yr ymwelwyr pan ddaeth y chwib olaf wedi chwe munud o amser ychwanegol.

Wrecsam felly fydd y pedwerydd t卯m o Gymru i chwarae yn Wembley mewn blwyddyn ar y 24ain o fis Mawrth, ond er hynny mae'n gwbl sicr mai dyrchafiad i'r Gynghrair B锚l-droed fydd y flaenoriaeth i'r rheolwr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol