Symud tywod o un traeth i'r llall yn Llandudno

Disgrifiad o'r llun, Mae perchnogion gwestai yn Llandudno yn honni bod tywod wedi diflannu o draeth y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf

Fe fydd mil o dunelli o dywod yn cael eu symud o un pen o Landudno i'r llall.

Mae gan y dre ddau draeth, un sydd 芒 gormod o dywod arno, a'r llall heb ddigon.

Felly, mae cynghorwyr Cyngor Conwy wedi penderfynu gwario 拢10,000 er mwyn symud tywod o un traeth i'r un arall er mwyn denu mwy o dwristiaid i'r dref.

Mae perchnogion gwestai yn Llandudno yn honni bod tywod wedi diflannu o draeth y gogledd dros y blynyddoedd diwethaf.

'Twmpath mawr'

Bu'n rhaid i Geoff Lofthouse, rheolwr cyffredinol Gwesty'r Imperial ganslo cystadleuaeth cestyll tywod yr haf diwethaf oherwydd diffyg tywod ar un o'r traethau.

"Mae pawb sy'n ymweld 芒 thref glan m么r yn disgwyl gweld tywod ar y traeth," meddai.

"Rydym wedi colli tywod oddi ar y traeth ers i amddiffynfeydd m么r newydd gael eu gosod.

"Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr os ydi pobl yn gallu defnyddio'r traeth i chwarae gyda'u plant."

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yr un pryd 芒 gwaith cynnal a chadw ar y traeth i leihau'r gost.

'Gwarchod y diwydiant'

Dywedodd y cynghorydd Mike Priestley, aelod y cabinet sy'n gyfrifol am y gwaith: "Mae tywod wedi bod yn diflannu o draeth y gogledd ac mae pobl sy'n byw yn agos i draeth y gorllewin wedi bod yn cwyno am dywod yn chwythu o gwmpas ers blynyddoedd.

"Mae' na dwmpath mawr o dywod bedwar troedfedd o uchder ar draeth y gorllewin sy'n achosi problemau.

"Mae hwn yn gyfle amlwg i symud tywod o un man i'r llall."

"Fe fyddwn hefyd yn gwella rheolaeth y traeth i geisio cadw'r tywod yn y mannau iawn."

Dywedodd y cynghorydd Graham Rees, aelod y cabinet dros dwristiaeth, fod y penderfyniad yn dangos fod y cyngor yn gwrando ar bobl sy'n gweithio yn y diwydiant twristiaeth.

"Mae twristiaeth yn werth tua 拢600 miliwn y flwyddyn i sir Conwy ac mae'n bwysig ein bod yn gwarchod y diwydiant hwnnw."