Haint coed ynn mewn tri safle newydd
- Cyhoeddwyd
Mae haint coed ynn wedi ei darganfod mewn tri safle newydd yng Nghymru, mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi cadarnhau.
Cafodd y ffwng heintus ei ddarganfod ymysg glasbrennau yn Sir Benfro a Cheredigion.
Dyma'r achosion cyntaf i'w cadarnhau yng Nghymru yn 2013.
Cafodd yr achos cyntaf ei ganfod yng Nghymru mewn coetir yn Sir G芒r ym mis Tachwedd.
Bellach mae 16 achos o'r haint wedi dod i'r amlwg yng Nghymru, y mwyafrif yn y de-ddwyrain. Ym Mhrydain mae 386 achos.
Nid yw swyddogion wedi cyhoeddi union leoliad yr haint gan nad ydyn nhw am rwystro tirfeddianwyr eraill rhag adrodd am eu pryderon os ydyn nhw'n amau bod y ffwng yn bresennol yn eu coed nhw.
15,348 hectar
Mae'r haint eisoes wedi taro nifer o goed mewn meithrinfeydd ar draws y DU.
Hyd yn hyn mae tua 100,000 o goed yn Lloegr a'r Alban wedi eu dinistrio
Mae swyddogion y Comisiwn Coedwigaeth yn anfon samplau i gael eu profi gan arbenigwyr iechyd planhigion os ydyn nhw'n amau bod unrhyw goed yn dioddef o'r haint.
Mae yna 15,348 hectar o goed ynn yng Nghymru, sef 5% o'r 304,000 hectar o goetir ym Mhrydain.
Mae'r onnen yn bwysig am ei phren, fel coed t芒n, fel noddfa bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ac fel rhan o'r tirlun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2012