Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Band eang: 拢90 miliwn i rannau o Gymru
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau eu bod yn buddsoddi 拢90 miliwn i ddod 芒 band eang cyflym i Orllewin Cymru a Chymoedd y De.
Rhan yw'r buddsoddiad o gynllun 拢425 miliwn i sicrhau bod 96% o gartrefi a busnesau'r wlad yn gallu elwa ar y rhwydwaith erbyn 2015.
Dywedodd y comisiwn y byddai rhwydwaith mwy cyflym yn "hwb economaidd" i ardaloedd oedd ei hangen.
Tra bod Llywodraeth Cymru'n gwario 拢58 miliwn ar gynllun Cyflymder Cymru mae'r un swm yn dod o Llywodraeth y DU.
'Yr economi ddigidol'
Bydd tua hanner y cynllun yn cael ei dalu gan y sector cyhoeddus a bydd peirianwyr yn gosod miloedd o gilomedrau o geblau ffibr optig,
Daw'r buddsoddiad Ewropeaidd oherwydd rhaglen rhwng Sir Ddinbych ac Ynys M么n yn y gogledd a Sir Benfro a Chaerffili yn y de.
Dywedodd Johannes Hahn, Comisiynydd Ewrop ar gyfer polisi rhanbarthol: "Bydd busnesau a dinasyddion yn elwa'n fawr ar gynlluniau fel hyn.
"Bydd y fenter yn golygu bod Cymru ar ei hennill yn sgil cyfleoedd yr economi ddigidol.
"Bydd y ffaith fod pobl yn gallu cael at y we yn gyflym yn chwarae rhan allweddol i helpu rhanbarthau o ran eu datblygiad economaidd."
Mae disgwyl i gwsmeriaid gael cyflymder o hyd at 80 megabeit yr eiliad a bydd rhai ardaloedd yn gallu cael cysylltiad uwch gyflym o 330 megabeit yr eiliad.
Bydd busnesau'n gallu uwchraddio i gyflymder uwch.