Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Llywodraeth y DU i wneud tro pedol ar bris alcohol?
Mae 'na bwysau ar Lywodraeth San Steffan i gadarnhau a fyddan nhw'n gwneud tro pedol ar gynlluniau i osod isafswm pris ar alcohol ai peidio.
Er mwyn ceisio mynd i'r afael 芒 goryfed, mae'r llywodraeth yn ystyried cyflwyno isafswm o 45c yr uned a gwahardd cynigion arbennig ar alcohol, fel dau-am-bris-un.
Er gwaetha' cefnogaeth y Prif Weinidog David Cameron i'r cynlluniau, mae 'na awgrym fod y Ceidwadwyr yn rhanedig ar y mater.
Yn 么l ymgyrchwyr iechyd, fe allai'r polisi achub bywydau.
Ond mae eraill, gan gynnwys rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol, yn dweud y byddai'n annheg ar bobl sy'n yfed yn gymhedrol.
Gwrthwynebiad
Mae'r blaid Lafur wedi cyhuddo'r llywodraeth o "arweinyddiaeth wan", wedi iddi ddod i'r amlwg y gallai'r cynlluniau gael eu diddymu.
Yn 么l y Swyddfa Gartre', maent yn ystyried yr ymateb i ymgynghoriad 10-wythnos ar y mater.
Mae'r 大象传媒 wedi cael ar ddeall fod yna bwysau cynyddol ar y llywodraeth i roi'r gorau i'r cynlluniau, yn sgil gwrthwynebiad gan weinidogion cabinet, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartre' Theresa May, yr Ysgrifennydd Addysg Michael Gove, ac arweinydd T欧'r Cyffredin Andrew Lansley.
Mae disgwyl i'r Canghellor George Osborne amlinellu cynlluniau'r llywodraeth ar brisiau alcohol yn y Gyllideb yr wythnos nesa'.
Petai isafswm o 45c yn cael ei gyflwyno, byddai can o lager cryf yn costio o leia' 拢1.56, a fyddai dim modd prynu potel o win am lai na 拢4.22.
Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu 芒 Llywodraeth Cymru i gael eu hymateb nhw i'r sefyllfa.