Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pryder am y 'pwysau mawr' ar ysbytai Cymru
Mae'r Coleg Meddygaeth Frys wedi codi pryderon nad yw "systemau mewn lle yng nghymunedau Cymru" i ddelio 芒 chynnydd mawr yn y pwysau ar adrannau brys ar draws y wlad.
Yn 么l y coleg, mae gostyngiad yn nifer y gwelyau a lefelau staffio isel wedi cyfrannu at y problemau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog cleifion i feddwl yn ofalus cyn galw 999 wrth i rai ysbytai drin mwy o gleifion nac erioed o'r blaen.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths: "Mae gan y cyhoedd r么l bwysig i'w chwarae ar adeg heriol iawn i'r gwasanaethau brys, trwy ddefnyddio'r gwasanaethau iechyd mwya' addas ar gyfer eu hanghenion ac ystyried yn ofalus cyn mynd i adrannau brys neu ddeialu 999.
"Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio'n galed iawn i ofalu am gleifion yn ystod cyfnod o bwysau cynyddol ar ysbytai a gwasanaethau brys, ac mae fy swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus."
Mae'r gaeaf bob amser yn gyfnod prysur i adrannau achosion brys, ond yn ystod y dyddiau diwethaf mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y galw wedi cynyddu'n aruthrol.
Gohirio llawdriniaethau
Cafodd dros 300 o gleifion eu gweld yn yr adran frys yn Ysbyty Treforys ger Abertawe ddydd Llun, ac roedd galw i fyny tua 25% yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda llawer o'r achosion angen gofal arbenigol.
Mae llawdriniaethau wedi cael eu gohirio mewn nifer o ysbytai ac mae ambiwlansys wedi bod yn gorfod aros i gael mynediad i adrannau brys.
Mae'r cynnydd sydyn yn y galw'r gaeaf hwn yn dilyn cyfnod anarferol o brysur ar gyfer adrannau brys yr haf diwethaf.
Mae cleifion 芒 salwch cyffredin neu f芒n anafiadau yn cael eu hannog i ymweld 芒'u meddyg teulu neu fferyllfa yn y lle cyntaf.
'Camau brys'
Dywedodd Mark Brandreth, cyfarwyddwr cynllunio a gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fod teithiau ambiwlansys i ysbytai yng Nghymru yn 22% yn uwch na'r disgwyl am yr amser hwn o'r flwyddyn.
"Mae ysbytai ar draws Cymru'n brysur iawn, yn delio gyda nifer o gleifion s芒l," meddai.
"Rydym wedi cymryd camau brys gan gynnwys gohirio rhai llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu i alluogi adnoddau clinigol i gefnogi'r galw yn yr adran achosion brys.
Yn 么l llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg: "Mae adrannau brys ar draws de Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy'n ddifrifol wael.
"Mae'r cleifion hyn angen triniaeth ysbyty ac mae hynny wedi cael effaith ar ein wardiau.
"I geisio helpu hynny, rydym wedi agor 80 o welyau ychwanegol ac mae staff yn gweithio'n hyblyg er mwyn gofalu am gleifion a lleddfu'r problemau."