Y gwaith o godi Pont Briwet newydd i gychwyn yn fuan
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y gwaith yn dechrau'n fuan i godi pont reilffordd newydd a phont newydd i gerbydau a cherddwyr dros aber Afon Dwyryd, rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau.
Mae'r cytundeb, gwerth 拢19.5 miliwn i godi'r pontydd, wedi cael ei roi i gwmni o dde Lloegr.
Yn 么l gwybodaeth ddaeth i law Post Cyntaf, fe fydd y gwaith paratoi ar Bont Briwet yn dechrau yn syth.
Mae'r bont bresennol yn 150 oed ac yn gwbwl anaddas ar gyfer trafnidiaeth yr 21ain Ganrif.
Cafwyd dros 拢9 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, sydd wedi ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal 芒 Network Rail, Cyngor Gwynedd, a chonsortiwm trafnidiaeth canolbarth Cymru Trac i wireddu'r prosiect.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Roberts, ei fod yn falch fod y gwaith yn cychwyn.
'Dyddiau gwell'
Fe ddisgrifiodd y cynllun fel un "hynod bwysig" i ardal Meirionnydd.
"Er bod yr hen Bont Briwet wedi gwasanaethu'r ardal yn dda ers bron i 150 o flynyddoedd, mae'r bont wedi gweld dyddiau gwell," meddai.
"Bellach tydi o ddim yn addas ar gyfer anghenion trafnidiaeth y dyddiau yma.
"Y ffaith amdani ydi, chafodd y bont ddim ei hadeiladu ar gyfer y llwyth traffig mae bellach yn ei chario bob diwrnod.
"Pan fydd hi'n agor yn 2015, bydd y Bont Briwet newydd yn darparu cyswllt allweddol ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol yr ardal a bydd yn sicrhau amseroedd siwrne byrrach ar gyfer aelodau'r cyhoedd a busnesau lleol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Network Rail, bod y cynllun yma yn cysylltu nifer o brosiectau gwella eraill yn y gogledd a fydd yn darparu siwrnai well ac yn rhoi hwb i economi'r ardal.
"Bydd y gwaith gyda Phont Briwet yn ei gwneud hi'n haws i deithio rhwng Harlech, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd tra mae'r gwaith pwysig yma yn cael ei gwblhau."
Milltiroedd ychwanegol
Bydd y bont newydd yn parhau i gario trac rheilffordd sengl ond bydd hefyd yn cynnwys priffordd gyhoeddus ddwyffordd ynghyd a llwybr beicio i gymryd lle'r un lon bresennol.
Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i gerbydau trwm a mawr deithio wyth milltir ychwanegol.
Ond pan fydd y bont newydd yn agor, bydd yn darparu cyswllt hwylus ar gyfer trenau, cerbydau o bob maint, beics a cherddwyr.
Cwmni peirianyddol HOCHTIEF (UK) Construction ydi'r prif gontractwyr ac fe fyddan nhw'n gweithio'n agos gyda'r cwmni Mulcair sydd wedi ei leoli yng Ngwynedd.
Fe fyddan nhw'n gwneud y mwyaf o'u perthynas weithio da gyda chyflenwyr lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012