Blogiwr yn colli achos ac yn gorfod talu iawndal o 拢25,000
- Cyhoeddwyd
Mae blogiwr aeth 芒 Phrif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin i gyfraith ar 么l ei gyhuddo o'i henllibio, wedi colli ei hachos.
Roedd Jacqui Thompson wedi honni i Mark James wneud hynny mewn llythyr gafodd ei anfon at gynghorwyr.
Ond, fe aeth Mr James ati wedyn i gyflwyno achos yn ei herbyn hi.
Cafodd achos Mrs Thompson ei wrthod yn yr Uchel Lys ac fe fydd rhaid iddi dalu 拢25,000 o iawndal i Mr James am dair erthygl gafodd eu postio ar ei blog.
Daeth y dyfarniad ar 么l cyfres o wrandawiadau yn Llundain.
Ffilmio cyfarfod
Roedd cyfreithwyr Mrs Thompson wedi honni bod yr achos yn un "y wladwriaeth yn erbyn dinesydd".
Ond dadl t卯m cyfreithiol Mr James oedd bod Mrs Thompson wedi cynnal "ymgyrch cwbl amhriodol" ar ei blog.
Fe ddatblygodd y ffrae gyfreithiol ar 么l i Mrs Thompson gael ei thaflu o gyfarfod y cyngor a'i harestio am wrthod stopio ffilmio yno ym mis Mehefin 2011.
Clywodd y llys bod Mr James wedi ysgrifennu llythyr mewn ymateb i feirniadaeth Mrs Thompson o'r cyngor wedi'r digwyddiad.
Cafodd y llythyr ei anfon at 74 o gynghorwyr a'i weld 825 gwaith ar 么l cael ei ailgyhoeddi ar flog arall.
Ond yn ei ddyfarniad ysgrifenedig ddydd Gwener, dywedodd Mr Ustus Tugendhat: "Dwi wedi canfod bod Mrs Thompson yn gysylltiedig ag ymgyrch anghyfreithlon o aflonyddwch, bygythiad ac enllib wedi ei dargedu at Mr James a swyddogion eraill o'r cyngor."
Yn ei datganiad ddydd Gwener dywedodd Mrs Thompson ei bod yn ystyried apelio yn erbyn y dyfarniad.
Dim arian
"Dwi wedi gweithredu gydag ewyllys da, mae fy nghymhelliad wedi bod yn gwbl ddidwyll a'r cyfan dwi wedi ei wneud ydi beirniadu'r cyngor lle dwi'n credu bo hi'n addas.
"Doedd gen i ddim cwyn tan iddyn nhw ddwyn achos yn fy erbyn i.
"Mae'n bosib bod hyn wedi agor y llif ddorau ar gyfer achosion tebyg a dwi'n credu bod y dyfarniad yma 芒 chanlyniadau pell gyrhaeddol i eraill sy'n archwilio a beirniadu eu hawdurdodau lleol yn gyhoeddus, gan gynnwys y wasg.
"Dwi ddim yn gwybod o ble dwi'n mynd i gael y 拢25,000, does gen i ddim 拢25.
"Dwi'n ceisio bod yn bositif a byddaf yn ceisio parhau gyda'r blog a galw am dryloywder lle bo modd."
Mewn datganiad dywedodd Mr James: "Mae cynghorau a chyrff cyhoeddus yn derbyn eu bod yn agored i feirniadith cyfreithlon, ond all hyn ddim ymestyn at....aflonyddwch anghyfreithlon a honiadau di-sail o droseddau gan swyddogion."
Dywedodd hefyd mai ar yr un achlysur " wnaeth y cyngor ymateb i'w beirniadaeth, fe wnaeth Mrs Thompson sicrhau gwasanaeth cyfreithiwr a dwyn achos o enllib."
Ychwanegodd ei fod yn "falch dros y staff gafodd eu cyhuddo ar gam".
"Fy unig beth dwi'n ei ddifaru yw bod Mrs Thompson wedi gwastraffu swm sylweddol o arian ac amser.".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013