Atomfa newydd i'r DU
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Ynni Llywodraeth y DU Ed Davey wedi rhoi caniat芒d cynllunio i gwmni EDF o Ffrainc godi atomfa niwclear yng Ngwlad yr Haf.
Hon fydd y gyntaf o gyfres o atomfeydd newydd fydd yn cael eu codi.
Brynhawn Mawrth yn Nh欧'r Cyffredin fe gyhoeddodd Mr Davey y byddai atomfa Hinkley Point C yn cael ei chodi.
Bydd y safle sy'n costio 拢14bn yn gallu cynhyrchu 7% o anghenion trydan ar gyfer 5m o gartrefi.
Yr amcangyfri' yw y bydd hyd at 25,000 o swyddi adeiladu'n cael eu creu a 900 o swyddi parhaol.
Dywedodd Mr Davey fod y prosiect "yn hollbwysig".
"Bydd yr economi leol yn elwa oherwydd swyddi, y gadwyn gyflenwi a phobl yn defnyddio gwasanaethau lleol."
30,000 o dudalennau
Cafodd y cais, oedd yn cynnwys mwy na 30,000 o dudalennau ac 800 o gynlluniau a lluniau, ei gyflwyno ar Dachwedd 24, 2011.
Mynegodd mwy na 1,200 o bobl ddiddordeb yn y cais ac am chwe mis cafodd y cyhoedd, y rhai gafodd eu hymgynghori, a rhai eraill oedd 芒 diddordeb, gyfle i roi tystiolaeth.
Cafodd argymhelliad ei wneud ar Ragfyr 19, 2012.
Dywedoodd Prif Weithredwr yr Arolygiaeth Gynllunio, Syr Michael Pitt: "Hwn oedd y cais mwyaf y mae'r arolygiaeth wedi delio ag e o dan Ddeddf Gynllunio 2008 ac roedd angen panel o bum arolygwr.
"Y brif flaenoriaeth oedd sicrhau y byddai cymunedau a allai gael eu heffeithio yn cael cyfle i fynegi barn."
Gwrthwynebu
Dywedodd Gary Smith, swyddog llawn amser Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Threfol: "Rydym yn croesawu'r cam angenrheidiol hwn.
"Ond mae'r oedi o ran pennu pris y trydan y bydd atomfeydd newydd yn ei gynhyrchu yn niweidiol i fuddsoddi, swyddi ac economi garbon isel."
Mae mudiadau amgylcheddol wedi dweud eu bod yn poeni am bris uchel y trydan y bydd yr atomfeydd yn ei gynhyrchu - a gwastraff niwclear.
Dywedodd Theo Simon o Ymgyrch Atal Hinkley: " ... y broblem yw dyw'r atomfeydd ddim yn mynd i fod yn barod mewn pryd nac o fewn cyllideb.
'Ateb call'
"Mae'n bryd claddu'r syniad a chwilio am ateb call i'n hanghenion ynni."
Ym mis Hydref rhybuddiodd CND Cymru y gallai unrhyw ddamwain effeithio ar dde Cymru am fod y safle 14 milltir o'r Barri a 19 milltir o Gaerdydd.
Ym Mehefin 2011 cadarnhawyd fod Wylfa ar Ynys M么n yn un o'r wyth safle oedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU fel rhai addas ar gyfer adeiladu atomfeydd newydd.
Mae'r llywodraeth yn awyddus i'r pwerdai niwclear fod yn barod erbyn 2025.