Hwb o 拢250,000 i Wrecsam?
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb P锚l-droed Wrecsam yn disgwyl y byddan nhw ar eu hennill o tua 拢250,000 yn dilyn eu taith i Wembley dros y penwythnos.
Bydd y clwb yn cwrdd 芒 Grimsby yn rownd derfynol Tlws yr FA yn eu hymweliad cyntaf 芒 Wembley ddydd Sul, Mawrth 24.
Dywedodd prif weithredwr y clwb, Don Bircham, ei fod yn disgwyl hwb ariannol enfawr.
"Os gawn ni dorf o 30,000, bydd hynny'n golygu 拢250,000 i'r ddau glwb mewn arian tocynnau," meddai.
"Wedyn mae'r gwobrau - 拢67,000 am golli a 拢25,000 yn ychwanegol i'r t卯m buddugol. Dylai gwerthu nwyddau a bysiau ddod 芒'r cyfanswm i 拢350,000.
"Mae gennym gostau wrth gwrs. Rhaid edrych ar 么l y chwaraewyr, ond ar y gorau fe allwn ni wneud elw o 拢300,000 - 拢250,000 ar y gwaethaf."
Blaenoriaeth
Eisoes mae Wrecsam wedi gwerthu 17,000 o docynnau ar gyfer y g锚m fawr, ac yn mynd 芒 70 o fysys i Wembley.
Curodd Wrecsam glwb Gainsborough 4-3 dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol i gyrraedd Wembley am y tro cyntaf yn eu hanes.
Ond mae'r rheolwr Andy Morrell eisoes wedi dweud mai'r flaenoriaeth yw ennill dyrchafiad i Wrecsam yn 么l i'r gynghrair b锚l-droed ar ddiwedd y tymor. Disgynnodd y clwb o'r gynghrair yn 2008.
Mae Wrecsam yn ail yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ar hyn o bryd, ac yn disgwyl croesawu'r t卯m sydd ar y brig, Mansfield, i'r Cae Ras nos Fawrth.
Ond daeth cyhoeddiad brynhawn Mawrth fod y g锚m wedi'i gohirio oherwydd bod gormod o dd诺r ar y Cae Ras.
Dim ond 10 pwynt sy'n gwahanu'r pump uchaf yn y tabl. Mae Wrecsam ddau bwynt y tu 么l i Mansfield ond wedi chwarae un g锚m yn fwy.
Kidderminster sy'n drydydd, ac mae gan Gasnewydd a Grimsby gemau wrth gefn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2012