大象传媒

Cyllideb 2013: Osborne yn haneru rhagolygon twf

  • Cyhoeddwyd
George OsborneFfynhonnell y llun, @george_osborne twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd George Osborne y llun yma o'i hunan ar wefan Twitter fore Mercher

Cododd George Osborne ar ei draed i draddodi ei bedwaredd cyllideb yn dilyn sesiwn holi'r prif weinidog am 12:32pm.

Bu'n rhaid i Ddirprwy Lefarydd T欧'r Cyffredin ymyrryd deirgwaith er mwyn galw am dawelwch i glywed ei araith.

Dechreuodd Mr Osborne trwy ddweud bod ei lywodraeth wedi llwyddo i dorri'r diffyg o draean, ac wedi helpu busnesau i greu 1.25 miliwn o swyddi newydd.

Ond ychwanegodd: "Mae hyn wedi cymryd mwy o amser nag y byddai unrhyw un wedi gobeithio, ond rhaid i ni aros ar y trywydd iawn."

Pwysleisiodd fod rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol (OBR) am dwf economaidd drwy'r byd wedi cael eu hadolygu, ac wedi gostwng yn sylweddol.

Mae'r OBR bellach yn disgwyl y bydd economi'r DU yn tyfu o 0.6% yn 2013 - yr amcangyfrif gwreiddiol oedd 1.2%.

Dyled

Mae dyled y wlad bellach wedi disgyn o 11.2% o'r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yn 2009/10 i amcangyfrif o 7.4% eleni, ac mae disgwyl i hyn ddisgyn ymhellach i 6.8% y flwyddyn nesaf, 5.9% yn 2014/15, ac yna 5%, 3.4% a 2.2% erbyn 2017/18.

O ran benthyca, mae disgwyl i hynny fod yn 拢97 biliwn yn 2014/15, 拢87 biliwn yn 2015/16, 拢61 biliwn yn 2016/17 a 拢42 biliwn yn y blynyddoedd i ddilyn.

Cyfaddefodd Mr Osborne fod hynny'n golygu y bydd yn methu targed benthyca'r llywodraeth o ddwy flynedd.

Cadarnhaodd fod canran incwm y DU sy'n cael ei wario gan y wladwriaeth wedi disgyn o 47.4% dair blynedd yn 么l i 43.6% heddiw, a disgwyl iddo gyrraedd 40.5% erbyn diwedd y cyfnod dan sylw.

Bydd holl adrannau'r llywodraeth yn gweld toriadau pellach, ag eithrio addysg ac iechyd. Fe fydd cyllidebau adrannau Whitehall yn cael eu cwtogi o 1% yn rhagor yn dilyn 拢11 biliwn o danwariant eleni.

O ran gwariant cyhoeddus, fe fydd codiadau cyflog yn y sector cyhoeddus yn cael eu cyfyngu i uchafswm o 1% am flwyddyn ychwanegol, hynny yw tan 2015/16.

Dywedodd Mr Osborne: "Yn y pen draw, ni fyddwn ni fel gwlad yn medru gwario mwy ar y gwasanaethau sy'n werthfawr i ni gyd o'r Gwasanaeth Iechyd i'r lluoedd arfog, nac i fuddsoddi yn ein hisadeiledd oni bai ein bod yn taclo'r twf mewn gwariant ar ein cyllidebau budd-daliadau."

Isadeiledd

Yn 么l y disgwyl fe ddaeth cyhoeddiad y bydd cynlluniau isadeiledd yn y DU yn derbyn hwb o 拢3 biliwn y flwyddyn o 2015/16 - cyfanswm o 拢15 biliwn dros y degawd nesaf.

Roedd cynlluniau ynni yn rhan o hynny, gyda Mr Osborne yn pwysleisio pwysigrwydd y cyhoeddiad ynghylch atomfa newydd yn Hinkley Point.

Ond dywedodd hefyd y bydd yn cyflwyno trefn drethu newydd i hybu buddsoddiad mewn ynni, gan gynnwys lwfans ym maes nwy si芒l, gan fod hynny, meddai, yn rhan o'r dyfodol.

Dechreuodd Mr Osborne drafod trethi penodol, gan ddweud i ddechrau y bydd yn lleihau treth gorfforaethol o 1% ymhellach - i 20% - erbyn Ebrill 2015, gan ddweud fod hyn yn dangos bod "Prydain yn croesawu busnes."

Ond dywedodd hefyd nad oedd am weld y banciau'n elwa o hyn, ac felly ei fod yn cynyddu'r dreth ar fanciau o 0.142% y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd nifer o gynlluniau i adfer 拢3 biliwn mewn trethi sydd ddim yn cael eu talu.

Yn eu plith, bydd cytundebau gydag Ynys Manaw, Guernsey a Jersey i gasglu dros un biliwn o bunnoedd mewn trethi sydd ddim yn cael eu talu ar hyn o bryd.

"Mae Prydain yn symud tuag at drethi isel a chystadleuol, ond rhaid i ni fynnu bod pobl a busnesau yn talu'r trethi yna, nid eu hosgoi," meddai.

Bydd yna hefyd reolau newydd i atal pobl rhag camddefnyddio rheolau partneriaeth neu golledion trethi cyfalaf, er enghraifft, a bydd hyn yn dod 芒 拢2 biliwn i'r coffrau meddai'r canghellor.

Fe fydd trefn bensiynau newydd yn cael ei chyflwyno'n gynt na'r disgwyl.

Bydd Pensiwn Sengl nawr yn cael ei gyflwyno yn 2016, ac fe fydd ail bensiwn y wladwriaeth yn diflannu bryd hynny.

O dan fformiwla Barnett, bydd y Gyllideb ddiweddara'n golygu bod 拢161 miliwn yn ychwanegol ar gael fel "gwariant cyfalaf" dros y ddwy flynedd nesa' sy'n golygu cyfanswm o 拢858 miliwn i Gymru.

Ond yn gyffredinol, mae'n golygu y bydd 拢104 miliwn o gyllideb ychwanegol ar gael i Gymru dros y ddwy flynedd nesa'.

Tanwydd

Daeth y newydd yr oedd llawer wedi gobeithio ei glywed am danwydd.

Cyhoeddodd y canghellor ei fod yn diddymu'r cynnydd mewn treth ar danwydd oedd i fod i ddigwydd yn yr hydref.

Mae hynny'n golygu y bydd petrol 13 ceiniog y litr yn rhatach nac y byddai wedi bod pe bai'r cynnydd, a rhai eraill, wedi eu gweithredu.

O ran prisiau alcohol, bydd y cynnydd arfaethedig o 3 ceiniog ar gwrw yn cael ei ddiddymu, gyda gostyngiad o 1 geiniog yn y dreth yn lle.

Bydd hynny'n dod i rym nos Sul, ac yn ymateb, medd Mr Osborne, i'r ffaith bod 10,000 o dafarnau wedi cau yn y DU.

Bydd cynlluniau i godi prisiau diodydd eraill yn parhau fel ag y maent.

Bydd lwfans treth personol - sef yr incwm y caiff pobl ei ennill cyn talu unrhyw dreth incwm - yn cynyddu i 拢10,000 yn gynt na'r disgwyl hefyd, ac yn dod i rym o fis Ebrill 2014.

Daeth cyhoeddiad ynghylch cymorth i fusnesau tua diwedd araith y canghellor.

Cyhoeddodd Mr Osborne na fydd traean o gyflogwyr - tua 450,000 o fusnesau bach a chanolig eu maint - yn talu Yswiriant Cenedlaethol i'w gweithwyr o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Daeth hynny am iddo gyflwyno Lwfans Cyflogwyr i fusnesau sy'n gymwys.

Daeth araith Mr Osborne i ben am 1:26pm - bu'n siarad am 44 munud, ac roedd digon i gnoi cil drosto.