Heddlu'n casglu 拢46m oddi wrth droseddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae comisiynwyr heddlu am adolygu sut mae arian sy'n cael ei gasglu oddi wrth droseddwyr, 拢46m o fewn degawd yng Nghymru, yn cael ei wario'n lleol.
Dangosodd manylion y Swyddfa Gartref fod 拢46,432,217 wedi ei adennill yng Nghymru a bod gorchmynion oedd yn mynnu 拢77m wedi eu cyflwyno.
Roedd yr hyn gafodd ei gasglu'n cynnwys arian parod, adeiladau, ceir a gemwaith.
'Cyffuriau'
Y llynedd, meddai'r Swyddfa Gartref, yng Nghymru cafodd 拢165m o asedau eu casglu yn sgil y Ddeddf Elw Troseddol.
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd Elfyn Llwyd: "Dwi'n credu bod yr arian y mae'r heddlu yn ei adennill yn cael ei wario'n gall.
"Ond mae angen mwy o bwyslais ar wario ar adsefydlu defnyddwyr cyffuriau.
"Mae o leia 66% o droseddau eiddo gerbron llysoedd y goron yn gysylltiedig 芒 dibyniaeth ar gyffuriau neu ddefnyddio cyffuriau."
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lian Penhale o'r T卯m Rhanbarthol Adennill Asedau y gallai'r broses adennill bara am flynyddoedd.
"Mae rhai troseddwyr yn derbyn y gallen nhw wynebu cyfnod o garchar ond yn casau colli eu hasedau," meddai.
"Rydym yn eu hamddifadu o'u tai, eu ceir a'u ffordd o fyw ..."
Yn 2004 cyflwynwyd cynllun sy'n golygu bod yr heddlu a chynghorau'n cael cyfran o'r arian sy'n cael ei gasglu.
Ond mae'r rhan fwya' o'r arian yn mynd i'r Swyddfa Gartref.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys Christopher Salmon: "Dros y blynyddoedd mae cyfran o'r arian gafodd ei adennill wedi cael ei wario ar achosion da.
"Dwi am ddatblygu'r gwaith."
Dywedodd y byddai'n sefydlu cronfa comisiynydd fyddai'n dosbarthu elw troseddol erbyn y flwyddyn ariannol nesa'.
Yng Ngwent mae 'na fwriad i wario mwy ar achosion da - ac ymladd troseddau.
Dywedodd y comisiynydd heddlu Ian Johnston: "Rydym yn croesawu'r arian pan mae'r esgid yn gwasgu ac mae llawer ohono'n targedu troseddwyr mawr."
'Mwy o ergyd'
Y llynedd yn y gogledd, meddai'r comisiynydd heddlu Winston Roddick, cafodd 29 o fudiadau eu hariannu.
Yn y de dywedodd y comisiynydd heddlu Alun Michael: "... mae colli asedau yn fwy o ergyd i droseddwr na chosb uniongyrchol.
"Mi fydda i'n cydweithio 芒'r prif gwnstabl er mwyn gwneud y defnydd mwya' o'r asedau sy'n cael ei gasglu."
Dywedodd Ian Davidson, Cydlynydd Portfolio Elw Troseddol Cymdeithas yr Uwchswyddogion Heddlu: "Mae deddf 2002 wedi ei defnyddio'n fwy aml ers 10 mlynedd ond mae modd i ni wneud mwy.
"Ond dim ond rhan o waith yr heddlu yw hon ac mae pwysau mawr ar adnoddau ..."
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Tra ein bod yn meddwl bod y drefn bresennol yn addas, rydym yn ei adolygu'n rheolaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012