大象传媒

Gweinidog: Effaith newidiadau'n 'ysgytwol'

  • Cyhoeddwyd
Pryder am newidiadau i fudd-daliadau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pryder am newidiadau i fudd-daliadau

Mae gweinidog wedi dweud y bydd newidiadau i'r drefn fudd-daliadau yn "ysgytwol".

Daeth y newidiadau, gan gynnwys gostwng budd-daliadau tai i bobl 芒 stafell wely sb芒r a newid trefn cymorthdal treth y cyngor, i rym ar Ebrill 1.

"Bydd yr effaith ar gymunedau drwy Gymru'n niweidiol iawn," meddai Huw Lewis, y Gweinidog Cymunedau a Thaclo Tlodi.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan fod cymdeithas yn diodde' pan oedd rhai'n cael mwy o arian i fod yn ddi-waith.

'Cosbi'

Honnodd Mr Lewis fod y llywodraeth am "gosbi'r tlodion yn fwy na neb arall" oherwydd argyfwng y banciau.

Ond dywedodd y llywodraeth fod y newidiadau'n "deg ac yn angenrheidiol".

Y Mesur Diwygio Lles yw'r newid mwya' yn y drefn fudd-daliadau ers y 1940au.

Dywedodd Mr Lewis: "Yn fy marn i, maen nhw'n newid y berthynas rhwng y llywodraeth a'i dinasyddion.

"Pan mae pobl angen rhyw fath o amddiffyn oherwydd y cyni economaidd maen nhw'n camu'n 么l o'u cyfrifoldeb i'r rhai mwya' bregus ..."

'Anghyfiawn'

Mewn neges ar Sul y Pasg dywedodd pedair o Eglwysi Prydain fod y mesurau'n "anghyfiawn" ac yn targedu'r "bobl fwya' bregus".

Y pedair yw Undeb y Bedyddwyr, y Methodistiaid, yr Eglwys Unedig Ddiwygiedig ac Eglwys yr Alban.

Tra bod yr eglwysi'n galw am well dealltwriaeth o dlodi, mae'r llywodraeth wedi dweud y bydden nhw'n arbed arian ac yn creu cymdeithas fwy teg.

Dywedodd Swyddog Polisi Cyhoeddus yr Eglwys Fethodistaidd, Paul Morrison: "Mae'r cyhoedd yn credu mai prif achos tlodi yw diogi ond mae'r rhan fwya' o bobl dlawd yn gweithio."

'Incwm isel'

A dywedodd y Parchedig Jonathan Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Prydain: "Mae un ffaith yn ddiddorol, mae'r cynnydd mewn tlodi ers degawd ymhlith y rhai ar incwm isel nid y di-waith."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Mae'n annheg fod hawlwyr budd-dal yn derbyn mwy o incwm na theuluoedd sy'n gweithio ..."