大象传媒

Ffigyrau GDP: Cymru tu 么l weddill Prydain

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yw'r is-ranbarth sydd wedi perfformio waethaf yn y Deyrnas Unedig o ran GDP ers 2006.

Mae Cymru ar ei h么l hi o'i chymharu 芒 gweddill y Deyrnas Unedig, yn 么l ffigyrau diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd ar Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y pen.

Mae'r ffigyrau ar gyfer 2010 yn dangos bod GDP y pen Cymru yn 81% o'r cyfartaledd Ewropeaidd.

Byddai ffigwr o 100% yn golygu bod GDP ardal yr un fath 芒'r cyfartaledd Ewropeaidd.

Oherwydd y ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu, gellir cymharu Cymru gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban, ond mae Lloegr yn cael ei rhannu i naw rhanbarth cyfatebol.

O ran y rhanbarthau hyn, yr un wnaeth berfformio orau o ran y ffigyrau GDP y pen oedd Llundain, oedd yn 187% o'r cyfartaledd.

Canran yr Alban oedd 107%, tra Gogledd Iwerddon ychydig yn uwch na Chymru ar 86%.

Mae Cymru wedi bod ar waelod tabl ystadegau'r Deyrnas Unedig ers y flwyddyn 2000, er bod y wlad wedi derbyn llawer o arian gan yr Undeb Ewropeaidd yn y cyfamser.

Mae'r arian yma yn cynnwys 拢1.87bn rhwng 2007 a 2013 yn unig.

"Is-ranbarthau"

Mae'r ardaloedd wedi eu rhannu yn isranbarthau, er mwyn medru gwneud cymariaethau manylach.

Dau isranbarth sydd yng Nghymru.

Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn cynnwys Gwynedd, Ynys M么n, Conwy, Sir Ddinbych, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cymoedd.

Y rhanbarth arall yw Dwyrain Cymru sydd yn cynnwys Caerdydd, Casnewydd, Powys, Sir Fynwy, Sir y Fflint a Wrecsam.

Ardal Gorllewin Cymru a'r Cymoedd sydd ar waelod tabl isranbarthau'r Deyrnas Unedig.

Mae'r GDP y pen yno yn 70% o'r cyfartaledd Ewropeaidd, tra mae Dwyrain Cymru yn cyrraedd y cyfartaledd o 100% yn union.

Canol Llundain yw'r isranbarth mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, gyda GDP sy'n 328% o'r cyfartaledd Ewropeaidd.

Mae'r ffigyrau yn cael eu casglu gan Eurostat ar ran yr Undeb Ewropeaidd.

Maen nhw'n rhybuddio bod y ffigyrau yn medru bod yn gamarweiniol ar gyfer rhai ardaloedd, oherwydd ffactorau fel gweithwyr yn byw mewn un ardal ond yn gweithio mewn un arall.

Gofynnwyd am ymateb gan lywodraeth Cymru.