大象传媒

Nid ar chwarae bach

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd 'na dipyn o sbloets yn y Bae ddydd Sul pan fydd chwaraewyr Dinas Caerdydd yn gorymdeithio i ddathlu ennill pencampwriaeth p锚l droed Lloegr.

Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews fydd yn croesawu'r t卯m i'r Senedd. Gan fod y Gweinidog Chwaraeon John Griffiths yn cynrychioli Dwyrain Casnewydd rwy'n cymryd mai ffawd tim p锚l droed arall fydd yn ar ei feddwl e ddydd Sul!

Ta waith am hynny mae Leighton yn ddewis da i lywio'r derbyniad. Mae'n dilyn Caerdydd ers yn grwt ac ymfalch茂o yn ei docyn tymor. Mae gen i ryw gof iddo gael "affair" fach gyda chlwb Gillingham pan yn ymgeisydd seneddol yn y dref honno. Efallai bod 'na gymhelliad gwleidyddol i'r garwriaeth honno ond dydw i ddim yn credu bod modd cwestiynu ei gariad tuag at yr Adar Gleision. Cawn eithrio Leighton o'r hyn sydd gen i i'w ddweud nesaf felly.

Ar y cyfan dyw e ddim yn beth da i wleidydd frolio am lwyddiannau rhyw d卯m y maen nhw'n cefnogi neu'n esgus cefnogi. I ddefnyddio term p锚l droed mae 'na beryg iddyn nhw ddod drosodd fel "plastics" - pobol sy'n mwynhau cefnogi t卯m llwyddiannus ond sy'n colli diddordeb yn ystod dyddiau du.

Mae'n werth cael cip ar dablau Cynghrair P锚l Droed Lloegr ar ddiwedd tymor 1996-97. Dyma'r pum t矛m oedd ar waelod y drydedd adran (League Two y dyddiau hyn) - Abertawe, Caerdydd, Hull, Brighton a Doncaster. O'r rheiny, Doncaster yw'r isaf yn y Cynghrair y dyddiau hyn, ac mae'r clwb hwnnw newydd ennill dyrchafiad i'r bencampwriaeth.

Ar ddydd Sadwrn Tachwedd 1af 1997 fe dalodd 6,459 i wylio Caerdydd yn chwarae Abertawe ym Mharc Ninian. Dydw i ddim wedi gofyn iddo ond rwy'n weddol sicr y byddai Leighton wedi bod yna. Sawl un o'r gwleidyddion eraill fydd yn croesawu'r tim ddydd Sul oedd yno? Ddim llawer, dybiwn i.