大象传媒

Dyrchafiad i Gasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cefnogwyr Casnewydd fu'n dathlu yn haul Wembley

Wrecsam 0-2 Casnewydd

Alltudion Casnewydd sy'n dathlu dyrchafiad i'r Cynghrair P锚l-droed ar ddiwedd brwydr timau Cymru yn Wembley, gan adael cefnogwyr Wrecsam yn ddagreuol unwaith eto.

Mae Casnewydd yn dychwelyd i'r cynghrair wedi bwlch o chwarter canrif, ond mae Wrecsam wedi methu yn y gemau ail gyfle am y trydydd tro mewn pum tymor.

Gyda'r ddau d卯m yn gwybod pa mor anodd yw ennill dyrchafiad o Uwchgynghrair Blue Square, doedd dim syndod mai dechrau nerfus gafwyd gan y ddau d卯m.

Ond wrth i'r hanner cyntaf ddatblygu, Wrecsam oedd yn cael y gorau o bethau gyda Brett Ormerod yn enwedig yn tanio sawl ergyd tuag at g么l Casnewydd.

Mae'n hen ddihareb yn y byd p锚l-droed fod rhaid manteisio mewn cyfnodau da, ac erbyn diwedd yr hanner a hithau'n parhau yn ddi-sg么r, dechreuodd Casnewydd ddod fwy i mewn i'r g锚m.

Golwr Wrecsam Chris Maxwell fu'n gorfod bod yn effro ar fwy nag un achlysur cyn yr egwyl i gadw ergydion gan Sandell a Minshull allan o'r rhwyd.

Camgymeriad

Digon tebyg oedd hi ar ddechrau'r ail hanner, ond wedi 55 munud daeth cyfle gorau'r g锚m. Yn dilyn cyd-chwarae hyfryd rhwng Ormerod a'r rheolwr Andy Morrell, daeth y cyfle i Ormerod ergydio, ond methu taro'r nod o chwe llath a wnaeth o.

Roedd hynny'n sbardun i Wrecsam gael cyfnod da arall, gyda Chasnewydd yn methu cadw'r meddiant am gyfnodau.

Daeth ergydion gan Johnny Hunt, Ormerod a Morrell yn agos at ei gilydd, a Lenny Pidgeley - golwr Casnewydd - gadwodd ei d卯m yn y g锚m sawl tro.

Doedd yr un o'r ddau d卯m yn ymddangos yn fodlon i fynd am amser ychwanegol, a bu'r ddau yn ymosod yn y deng munud olaf, ac yna daeth camgymeriad.

Amddiffynnwr Wrecsam, Dave Artell, oedd yn gyfrifol, ac fe ddaeth cyfle i Christian Jolley. Fe fanteisiodd i roi Casnewydd ar y blaen gyda phum munud o'r 90 yn weddill.

Ond wrth i Wrecsam wthio 'mlaen i geisio unioni'r sg么r, fe agorodd bylchau yn y cefn, a chyn y diwedd fe fanteisiodd Casnewydd ar hynny.

Eu prif sgoriwr y tymor hwn, Aaron O'Connor, fanteisiodd i'r eithaf i sgorio ail g么l, a sicrhau'r fuddugoliaeth.

Er i Wrecsam daflu pawb ymlaen wrth geisio dod yn gyfartal yn y munudau olaf, doedd dim yn tycio, a'r cefnogwyr o'r de-ddwyrain sy'n dathlu.