Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ambiwlansys: ACau'n trafod adolygiad
Mae Aelodau Cynulliad wedi bod yn trafod argymhellion adolygiad yr Athro Siobhan McLelland am y gwasanaeth ambiwlans, y nawfed mewn chwe blynedd.
Roedd yr adolygiad wedi dweud bod "problem sylfaenol gyda trefniadau atebolrwydd a llywodraethu'r gwasanaeth ambiwlans".
Ymhlith yr argymhellion roedd un am i'r llywodraeth ystyried dileu gwasanaeth Cymru-gyfan yn llwyr.
Dim ond 53.3% o alwadau brys Adran A gyrhaeddodd o fewn targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Mawrth eleni.
'Embaras misol'
Amlygodd y gwrthbleidiau ba mor wael oedd perfformiad y gwasanaeth.
Tra dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol fod y perfformiad yng Nghymru'n llawer gwaeth na gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol, cyfeiriodd y Blaid Geidwadol at broblemau o ran ysbryd y staff.
Dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru fod y perfformiad yn "embaras misol" i Lywodraeth Cymru.
Cynigiodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford y dylai'r gwrthbleidiau gynnig eu syniadau a thrafod ag e.
Mae Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru Owain Clarke wedi dweud: "Mae'n ymddangos ei fod e'n dweud bod y cwestiwn mor bwysig fel bod angen datblygu rhywfath o gonsensws.
"Nid hon oedd yr adeg i wyntyllu dadleuon y gorffennol."
Ynghynt cyhoeddodd y gweinidog gyllid ychwanegol o 拢9.48 miliwn ar gyfer ambiwlansys yng Nghymru.
Bydd yr arian ychwanegol yn caniat谩u cyfnewid 110 o'r hen gerbydau, gan gynnwys ambiwlansys a cherbydau ymateb cyflym.
'68%'
Wrth gyhoeddi'r arian, dywedodd Mr Drakeford: "Mae nifer y galwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cynyddu o 68% dros y degawd diwethaf.
"Mae'n dibynnu ar gael cerbydau yn barod i ymateb 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
"Yn y rhan fwyaf o achosion, mae ambiwlansys yng Nghymru yn gweithredu mewn amgylchiadau anodd ac yn gwneud llawer iawn o filltiroedd.
"Rhaid i ni felly barhau i fuddsoddi mewn cerbydau newydd fel eu bod ar y ffordd ac yn barod i ddarparu gwasanaethau clinigol o safon uchel."
Dywedodd y gweinidog y byddai'r arian ychwanegol yn talu am :-
- 49 ambiwlans brys a gwasanaethau dibyniaeth uchel;
- 46 cerbyd ymateb cyflym a cherbydau ymarferwyr brys;
- tri gwasanaeth gofal y claf;
- pum gwasanaeth negesydd iechyd;
- saith cerbyd arbenigol (i'w defnyddio i reoli, hyfforddi gyrwyr a chefnogi digwyddiadau mawr).