Coleg Harlech yn cynnal arwerthiant
- Cyhoeddwyd
Mae Coleg Harlech yn cynnal arwerthiant er mwyn ceisio lleihau ei ddyledion o bron i filiwn o bunnoedd.
Bydd dros 350 eitem o waith celf neu lenyddiaeth yn cael eu cynnig i brynwyr, gan gynnwys ambell lun gan Kyffin Williams.
Mae disgwyl i un ohonynt, sef tirlun o'r enw Pentrepella, godi rhwng 拢35,000 a 拢45,000 a gallai un arall, Ffridd Llwyn Gorfun, godi dros ddeng mil o bunnoedd.
Y gobaith yw y bydd yr arwerthiant yn codi dros hanner miliwn o bunnoedd a bydd hynny'n mynd rhywfaint o'r ffordd i dalu am ddiffyg ariannol y coleg.
Cyhoeddodd Coleg Harlech ym mis Mawrth eu bod nhw mewn dyled o 拢900,000.
Mae'r coleg yn darparu cyrsiau galwedigaethol ar gyfer oedolion mewn lleoliadau ledled gogledd a chanolbarth Cymru.
'Anfaddeuol'
Dangosodd ymchwil gan 大象传媒 Cymru bod y coleg wedi gwario bron i 拢500,000 ar gostau ymgynghorol ar gyfer adeilad sydd bellach ddim yn debygol o gael ei adeiladu.
Gwariodd y coleg yr arian er mwyn ceisio sicrhau caniat芒d cynllunio i ail-ddatblygu Theatr Harlech, creu lle i arddangosfeydd yn ogystal ag adeiladu unedau ar gyfer busnesau a neuadd breswyl newydd i fyfyrwyr.
Ond ni lwyddodd y coleg i sicrhau'r buddsoddiadau angenrheidiol roeddent angen er mwyn i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Dywedodd aelod o staff y coleg oedd eisiau rhoi tystiolaeth yn ddi-enw bod y ffigwr o hanner miliwn yn "anfaddeuol, yn annealladwy".
"Fe ddylai rhywun fod wedi goruchwylio hyn. Wnaethon nhw ddim a rhaid eu gwneud yn atebol," meddai.
'Sefyllfa ariannol anodd iawn'
Mewn datganiad dywedodd Coleg Harlech: "Darganfu Coleg Harlech yn ddiweddar ei fod mewn sefyllfa ariannol anodd iawn, felly, fel rhan o'r cynllun adfer penderfynwyd gwerthu rhai o'r asedau.
"Y gobaith yw y bydd y gwerthiant yn helpu'r gymdeithas i barhau 芒'i brif r么l o ddarparu addysg i oedolion ar draws gogledd a chanolbarth Cymru."
Bydd yr arwerthiant yn cael ei gynnal ar Fai 15 yn Nh欧 Arwerthiant Wingetts yn Wrecsam.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013