大象传媒

Ysbyty Morgannwg: Lansio ymgyrch

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn wynebu colli rhai gwasanaethau

Bydd aelodau o'r Blaid Lafur heddiw'n lansio ymgyrch i gadw gwasanaethau brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Mae aelodau Llafur y Rhondda a Pontypridd yn gwrthwynebu'r cynllun i dynnu'r uned gofal brys o'r ysbyty, sydd wedi ei leoli yn Llantrisant.

Leighton Andrews yw aelod Cynulliad y Rhondda, sydd hefyd yn aelod o gabinet y llywodraeth fel y gweinidog addysg, ac mae'n honni y byddai'r newid yn golygu y bydd pobl o'r Rhondda yn gorfod teithio i Gaerdydd am driniaeth.

Dywedodd Mr Andrews: "Gwasanaethau diogel a dibynadwy ddylai'r flaenoriaeth fod, ond os bydd gwasanaethau brys yn mynd o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yna byddai pobl yn y rhan fwyaf o'r Rhondda yn gorfod teithio i Gaerdydd, a fyddai'n gwasanaethau yno'n cael eu rhoi dan bwysau ac yn arwain at fwy o dagfeydd o amgylch Ysbyty Athrofaol Cymru.

"Rwy'n gobeithio y bydd y gweinidog iechyd hefyd yn edrych ar wasanaethau ambiwlans yn y Rhondda ac ansawdd gwasanaethau y tu allan i oriau a gwasanaethau meddygon teulu."

Cynaliadwy?

Mae byrddau iechyd eisiau canoli rhai gwasanaethau gofal brys a gofal plant fyddai'n golygu bod yr ysbyty yn colli rhai o'r gwasanaethol sydd yno ar hyn o bryd.

Ar hyn o bryd mae wyth ysbyty yn ne Cymru yn cynnig cyfuniad o unedau gofal brys a gwasanaethau arbenigol i blant a babanod ond mae'r pum bwrdd iechyd sydd ag ysbytai yn y de yn dadlau bod angen canoli gwasanaethau.

Maen nhw'n dweud nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy.

Bydd Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant yn ogystal ag AC Pontypridd Mick Antoniw a'r AS Owen Smith hefyd yn bresennol.

Mae disgwyl i'r lansiad ddechrau am 1pm tu allan i'r ysbyty yn Llantrisant.

Ymateb

Mae aelodau o'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r cynlluniau.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad Andrew RT Davies: "Yn y pen draw mae'r israddio hyn yn ganlyniad i fethiant i flaenoriaethu buddsoddiad yn y gyllideb y gwasanaeth iechyd a methiant i ddenu clinigwyr i wasanaethau arbenigol yn y rhanbarth."

Mae Mr Davies hefyd yn amheus o gymhelliant yr aelodau Llafur fydd yn lansio'i hymgyrch heddiw gan ddweud eu bod yn ymddwyn mewn ffordd "ragrithiol".

"Mae'n ffiaidd gweld Llafur yn chwilio am elw gwleidyddol rhad yn hytrach nag uno y tu 么l i ymgyrch o dan arweiniad y gymuned. Ni ddylai pobl anghofio bod Llafur wedi rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru am 14 mlynedd a byddant yn gweld drwy'r oportiwnistiaeth fl锚r yma."

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood hefyd wedi codi cwestiynau yngl欧n 芒 chymhelliant y pedwar aelod Llafur.

"Mae'r gweinidog Llafur sydd 芒 chyfrifoldeb uniongyrchol yn y llywodraeth am wneud y newidiadau hyn mewn sefyllfa dda i atal y cynigion hyn nawr.

"Os nad yw'r cynlluniau yn cael eu hatal, yna gallaf weld cwestiynau mawr yn cael ei gofyn yngl欧n ag os mai chwarae gemau gwleidyddol yw hyn.

"Bydd Plaid Cymru yn gweithio gydag unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn ymladd i achub gwasanaethau lleol mewn ysbytai fel ysbyty Brenhinol Morgannwg."

Dywedodd Peter Black, aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros dde orllewin Cymru, ei fod yn falch y bydd gwasanaethau'n cael eu cadw yn ysbytai Treforys a Thywysoges Cymru.

Ond dywedodd bod angen i bobl leol fod yn "wyliadwrus" a "pharhau i wneud yr achos dros gadw'r gwasanaethau hyn yn lleol ac yn bennaf oll, sicrhau bod yr ymgynghoriad newydd yn adlewyrchu barn y trigolion yn Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. "