Camddefnyddio gwefannau cymdeithasol

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o awdurdodau lleol yn cyfyngu ar fynediad staff i wefannau cymdeithasol yn y gweithle.
  • Awdur, Alun Jones
  • Swydd, Newyddion Ar-lein

Cafwyd 14 achos o gamddefnyddio gwefannau cymdeithasol Facebook a Twitter gan weithwyr awdurdodau lleol Cymru yn 2012.

Daeth yr wybodaeth wedi cais 大象传媒 Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd tri achos yng nghyngor Powys o staff yn camddefnyddio gwefan Facebook.

Anfonodd un person "negeseuon o natur amhriodol ac awgrymog i ddysgwr trwy Facebook".

Cafodd ei wahardd o'i ddyletswyddau ar unwaith, ac yna fe derfynwyd y cytundeb tymor penodedig.

Cyflwynwyd rhybudd ysgrifenedig terfynol i ddau berson, y naill am "bostio sylwadau gofidus" a'r llall am "ddod ag anfri posibl ar y Cyngor trwy bostio sylwadau amhriodol".

Dywedodd y Cyngor mewn datganiad: "Mae'r defnydd o wefannau cyfryngau cymdeithasol o fewn Cyngor Sir Powys yn cael ei gyfyngu ar hyn o bryd yn ystod oriau gwaith craidd oni bai fod r么l aelodau staff yn gofyn iddynt gael mynediad ar gyfer dibenion busnes i ddiweddaru a chynnal gwybodaeth i'r cyhoedd.

"Yn yr achos hwn, cyflwynir achos busnes i'n t卯m cyfathrebu i'w gymeradwyo".

'Difr茂o'r cyngor'

Yng Nghyngor Gwynedd, rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig ffurfiol i dri pherson am "ddifr茂o'r cyngor" ar Facebook.

Roedd tri achos yng nghyngor Torfaen yn 2012.

Nid oedd y cyngor yn fodlon datgelu manylion oherwydd "byddai cyhoeddi'r wybodaeth yn debygol o fod yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data".

Cafwyd camau disgyblu yng Nghyngor Abertawe ar 么l i weithiwr "wneud bygythiadau a sylwadau amhriodol" ar Facebook am weithwyr eraill o fewn y cyngor.

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr cafodd un aelod o staff ei ddisgyblu am gamddefnyddio Twitter y tu allan i'r gweithle.

Cafodd un o weithwyr Cyngor Ceredigion rybudd llafar am feirniadu gwasanaethau'r cyngor ar Facebook.

Yng Nghaerffili roedd un achos yn ystod 2012 oherwydd sylwadau amhriodol a wnaed tu fas i'r gwaith ar Twitter. Cafodd y gweithiwr "gyngor a chefnogaeth".

Yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, cofnodwyd un achos lle gwnaed sylwadau amhriodol, a wnaethpwyd tu allan i oriau gwaith, ar Facebook, ac fe roddwyd rhybudd ysgrifenedig, gan hefyd fonitro am chwe mis.

Cafodd un o weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf rybudd anffurfiol yn dilyn "sylwadau amhriodol a phersonol" ar wefan.

Yn 么l cofnodion Cyngor Casnewydd, roedd un ymchwiliad i achos honedig o gamddefnyddio gwefannau rhwydweithio cymdeithasol. Fodd bynnag, yn dilyn yr ymchwiliad, y canlyniad oedd "dim achos i'w ateb".

Ni chofnodwyd unrhyw achosion yn 2012 yng nghynghorau Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Conwy, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Penfro, Sir y Fflint, Ynys M么n, a Wrecsam.

Ni chafwyd ateb i'r cais gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, a dywedodd Cyngor Sir Ddinbych y byddai'n costio gormod o arian i gasglu'r data o'u cofnodion.

Dywedodd Matthew Sinclair, prif weithredwr Cynghrair y Trethdalwyr: "Bydd trethdalwyr am wybod bod staff y cynghorau yn defnyddio eu hamser yn iawn gan sicrhau gwerth am arian.

"Tra bod gwefannau cymdeithasol yn ddefnyddiol i gynyddu tryloywder a darparu gwybodaeth, mae'n bwysig nad ydyn nhw'n cael eu camddefnyddio".