大象传媒

Economi wedi elwa o gig Cymru

  • Cyhoeddwyd
Defaid ar Fannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cig Oen Cymru yn cael ei werthu yn y Dwyrain Canol

Mae adroddiad annibynol wedi dod i'r casgliad bod asiantaeth hyrwyddo cig wedi cyfrannu gwerth 拢115 miliwn yn ychwanegol at economi Cymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Cafodd Hybu Cig Cymru ei sefydlu yn 2003 i ddatblygu brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod allforion y ddau gig wedi bod gwerth dros 拢200 miliwn yn flynyddol.

Dywed y ddogfen hefyd bod Cig Oen Cymru yn cael ei gydnabod fel cig o ansawdd premiwm gan nifer o fanwerthwyr.

Mae cig o Gymru wedi llwyddo yn arbennig yn y farchnad Emiraethau Arabaidd Unedig, yn 么l yr adroddiad, a dyma'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

Mae hon yn farchnad sy'n agor drysau i gyfleoedd yn y Dwyrain Canol a chig oen bellach yn cael ei werthu yn Hong Kong, Singapore, Canada a Sgandinafia.

'Adnabyddus'

Dywedodd Cadeirydd HCC, Dai Davies: "Yma yn y DU, mae ymgyrchoedd HCC wedi gwneud brand Cig Oen Cymru yn fwy adnabyddus na'r un brand cig oen arall.

"Hefyd, mae HCC wedi llwyddo i wneud yn si诺r fod llawer o awdurdodau iechyd yng Nghymru yn gweini dim ond Cig Eidion Cymru PGI a Chig Eidion Cymru.

"Mae HCC wedi cydweithio'n agos 芒 ffermwyr a phroseswyr, gan dargedu'r prif heriau sy'n wynebu'r diwydiant er mwyn gwella cynhyrchedd ac, o'r herwydd, ansawdd y cynhyrchion."

Gwerthu dros y d诺r

Roedd prif weinidog Cymru yn lansio'r adroddiad mewn digwyddiad nos Fawrth.

Dywedodd Carwyn Jones fod yna rhesymau pam bod cig Cymru yn gwneud cystal yn y farchnad dramor.

"Un o'r rhesymau pam y bu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru mor llwyddiannus yn y marchnadoedd tramor hyn - ar wah芒n i flas ac ansawdd uwchraddol y cigoedd - yw'r ffaith fod y ddau wedi derbyn statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan y Comisiwn Ewropeaidd," meddai.

Ychwanegodd: "Mae PGI yn cael ei ystyried yn nod o ansawdd mewn llawer o wledydd y tu allan i Ewrop. Mae wedi helpu i hybu'r galw am ein cig oen a chig eidion, gan greu swyddi a golud n么l yma yng Nghymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol