大象传媒

Gweinidog o dan y lach am ei ymgyrch

  • Cyhoeddwyd
Aelodau Llafur Pontypridd a'r Rhondda
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r wefan labour4royalglam bellach wedi ei thynnu lawr

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi ceryddu aelod o'i gabinet yn gyhoeddus oherwydd ei ymgyrch i amddiffyn gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Dywedodd Mr Jones fod Leighton Andrews wedi gorfod tynnu pob cyfeiriad at y Blaid Lafur o wefan oedd wedi cael ei chreu ar gyfer y brotest yn erbyn cynnig i newid gwasanaethau.

Roedd Mr Andrews wedi honni y gallai gwasanaethau gofal brys "ddiflannu" o dan gynlluniau ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y de.

Ond mae swyddogion iechyd eisoes wedi dweud na fyddai gwasanaethau brys yn cael eu colli.

Dywedodd Mr ones "na fyddai'n gywir" dweud y byddai unrhyw adran ofal brys mewn unrhyw ysbyty yn cau o dan y cynlluniau.

Ychwanegodd nad oedd ef na'i blaid am ganiat谩u defnyddio enw'r Blaid Lafur mewn cysylltiad 芒'r ymgyrch.

'Camarweiniol'

Mewn dadl yn y cynulliad yr wythnos ddiwethaf, roedd y Prif Weinidog wedi dweud bod Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gwneud datganiad "camarweiniol, anwir ac anghywir" wedi iddi awgrymu y byddai gwasanaethau yn cau o dan y cynlluniau.

Yna heriodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar Mr Jones, gan awgrymu bod Mr Andrews wedi dweud rhywbeth tebyg mewn datganiad i'r wasg.

Fe ddywedodd Mr Jones ar y pryd nad oedd unrhyw aelod Llafur wedi dweud hynny "yn y siambr".

Erbyn hyn, mae gwefan yr oedd Mr Andrews ac aelodau Llafur y Rhondda a Phontypridd wedi ei sefydlu, labour4royalglam, wedi ei thynnu i lawr ac mae gwefan o'r enw campaign4royalglam yn ei lle.

Owen Smith oedd un o'r aelodau hynny, Ysgrifennydd Cymru pe bai Llafur yn ennill etholiad 2015.

Canoli gwasanaethau

Mae pum bwrdd iechyd sy'n cynrychioli de Cymru wedi cyflwyno cynigion i ganoli gwasanaethau gofal brys a rhai gwasanaethau eraill ar lai o safleoedd.

Os bydd eu cynnig "delfrydol" yn cael ei weithredu bydd rhai gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys gofal brys, yn cael eu tynnu o Ysbyty Brenhinol Morgannwg er mwyn darparu gwasanaethau cryfach mewn llefydd eraill.

Yn yn ei gynhadledd fisol i'r wasg, dywedodd Mr Jones: "Mae'n bwysig nad yw enw'r blaid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ymgyrch - mae hynny wedi ei wneud yn gwbl glir ond mae pob hawl gydag Aelodau Cynulliad i wneud eu sylwadau i fwrdd y rhaglen ond, wrth gwrs, ni ddylai fynd ymhellach na hynny."

Pan ofynnwyd a yn "gyfforddus" gydag ymgyrch labour4royalglam, ychwanegodd: "Mae hynny'n rhywbeth na allwn ni fel plaid ei ganiat谩u - a wnaethon ni ddim. Mae'n ofnadwy o bwysig fod y cyhoedd yn deall nad yw Llafur Cymru yn ymgyrchu o blaid nac yn erbyn unrhyw ysbyty.

"Os yw aelodau eisiau dweud eu barn gallen nhw wneud hynny fel unigolion."

Cadarnhaodd ei fod wedi cael "trafodaethau" gyda Mr Andrews, gan ddweud wrtho fod rhaid i weinidogion weithredu o fewn "canllawiau" penodol.

'Disgyn yn ddarnau'

Mewn ymateb i'r hyn ddywedodd y Prif Weinidog, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar: "Mae'r cerydd digynsail hwn yn fwy o brawf bod y Blaid Lafur yn disgyn yn ddarnau oherwydd y Gwasanaeth Iechyd.

"Nid yn unig mae Carwyn Jones wedi 'tynhau tennyn' ar ei weinidog addysg, mae hefyd wedi strapio ei drwyn a'i roi mewn caets."

Dywedodd Elin Jones ar ran Plaid Cymru: "Fel y gwnaethpwyd yn glir iawn gan sylwadau'r Prif Weinidog heddiw, mae'r cynigion hyn i gael gwared ar wasanaethau ysbyty hanfodol yn gyfan gwbl o fewn pwerau'r llywodraeth Lafur hon, ac rydym yn cytuno ei bod yn gwbl ffuantus o ACau Llafur i awgrymu fel arall."