Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dim newid i ffigyrau diweithdra
Doedd dim newid yn nifer y di-waith yng Nghymru yn ystod y mis hyd at ddiwedd Ebrill, yn 么l ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r ffigwr dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos cwymp o 6,000 yn nifer y rhai sydd heb swydd o'i gymharu 芒'r un adeg yn 2012.
Bellach mae 8.4% o boblogaeth Cymru yn ddi-waith. Y gyfradd ar draws y DU yw 7.8%.
Un ffigwr sydd wedi newid dros y mis yw nifer y bobl sy'n hawlio budd-dal yng Nghymru, a bu gostyngiad bach yn y ffigwr yna.
'Perfformio'n well'
Wrth ymateb i'r ffigyrau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Mae ystadegau heddiw yn dangos eto bod Cymru'n perfformio'n well na'r cyfartaledd yn y DU yn nhermau cyflogaeth a gweithgaredd economaidd.
"Er hynny mae'r ffigyrau'n dangos bod y sefyllfa economaidd yng Nghymru yn wan oherwydd yr economi fyd eang a thoriadau gwariant a orchmynwyd gan Lywodraeth y DU.
"Er mai llywodraeth San Steffan sy'n rheoli'r arfau economaidd mawr, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo pobl yn 么l i fyd gwaith neu hyfforddiant.
"Mae ein rhaglen - Twf Swyddi Cymru - wedi creu mwy na 6,000 o swyddi ychwanegol ers Ebrill 2012, ac wedi gweld dros 4,900 o bobl ifanc yn manteisio ar gyfleoedd swydd.
"Ers 2008, mae ein rhaglen i gynorthwyo busnes wedi helpu i sefydlu 5,775 o fusnesau newydd gan greu mwy na 12,100 o swyddi, ac mae disgwyl 10,500 o swyddi pellach erbyn Mehefin 2015."
'Ar y trywydd iawn'
Roedd Ysgrifennydd Cymru David Jones AS yn cytuno bod y ffigyrau yn galonogol. Dywedodd Mr Jones:
"Mae'n galonogol iawn bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos arwyddion o dwf yng Nghymru, ac mae'r ffigyrau'n dangos bod Cymru'n symud i'r cyfeiriad cywir.
"Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cefnogi ein heconomi yn flaenoriaeth, ac mae ffigyrau heddiw yn dangos ein bod ar y trywydd iawn.
"Mae'n bositif gweld bod 32,000 yn fwy o bobl Cymru mewn gwaith nag ar yr adeg yma'r llynedd.
"Byddaf yn cynnal uwchgynhadledd swyddi arall - y tro hwn yng ngogledd Cymru - er mwyn annog a hybu trafodaeth ar gyflogaeth a'r materion sy'n wynebu busnesau."
Angen cydweithio
Ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, dywedodd eu llefarydd menter a busnes Eluned Parrott AC:
"Mae'r ffigyrau yn newyddion da. Mae graddfa diweithdra Cymru yn uwch na Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae ffigurau heddiw yn dangos bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir.
"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn gweithio tuag at economi gryfach a chymdeithas decach, ac rydym am weld byd busnes yn ffynnu a chael yr hyder i gyflogi mwy o staff.
"Er mwyn i hyn ddigwydd rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU weithio'n dda gyda'i gilydd.
"Ein blaenoriaeth nawr yw taclo diweithdra ymysg yr ifanc os ydym am adeiladu gweithlu sy'n rhoi cyfleoedd i'n pobl ifanc."
'Mwy o fenywod yn ddi-waith'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Alun Ffred Jones AC:
"Mae'n drueni fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu yn eu hymdrechion i fynd i'r afael 芒 diweithdra.
"Unwaith eto, nid yw'r ffigyrau yn dangos unrhyw welliant; maent yn dangos fod diweithdra yng Nghymru yn uwch nac yng ngweddill y DU.
"Ar ben hyn, mae nifer y menywod di-waith wedi cynyddu eto. Dylai'r ffigyrau hyn fod yn rhybudd i'r llywodraeth.
"Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i wneud llawer mwy i fynd i'r afael 芒 diweithdra, a'r mis diwethaf fe wnaethom lansio ein Cynllun C i'r economi, gan roi manylion am yr hyn y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn wneud i adfer ein heconomi llesg.
"Gobeithio y bydd ffigyrau heddiw yn dychryn y llywodraeth i roi eu cynigion eu hunain gerbron a gweithredu o'r diwedd ar y broblem hon."