大象传媒

Pobl ifanc yn anfon neges heddwch Llangollen

  • Cyhoeddwyd
MerchedFfynhonnell y llun, Ceidiog Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y merched yn darllen y Neges yn Gymraeg a Saesneg

Dwy ferch ysgol leol sydd yn anfon y Neges Heddwch draddodiadol i'r byd eleni o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Ers 1952 mae pobl ifanc Llangollen wedi cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da o lwyfan yr Eisteddfod yn ystod y diwrnod agoriadol.

Eleni bydd dwy fersiwn o'r neges, un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg, yn cael eu darllen mewn dau berfformiad gwahanol ar Ddiwrnod y Plant, Gorffennaf 9.

Millie Orton Jones fydd yn darllen y Neges yn Gymraeg tra bydd y cyfieithiad Saesneg yn cael ei gyflwyno gan Hannah Hughes.

'Yn edrych ymlaen'

Mae'r ddwy'n ddisgyblion mewn ysgolion lleol.

Dywedodd Millie Orton Jones a fydd yn darllen y fersiwn Gymraeg: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn am y cyngerdd ac at ddarllen y Neges Heddwch sy'n dweud cymaint y mae'r Eisteddfod yn ei olygu i bobl Llangollen."

"Dydw i ddim yn poeni am ddarllen y neges yn Gymraeg oherwydd dwi'n mynd i ysgol gyfrwng Cymraeg ac rydw i'n reit rugl yn yr iaith."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynhelir yr eisteddfod eleni rhwng 9 a 14 Gorffennaf

Dywedodd mam Millie, Tessa Orton Jones: "Rydym ni'n falch iawn o'r ffaith ei bod hi wedi cael ei dewis ar gyfer yr anrhydedd hwn ac mae hi wedi cyffroi'n l芒n yngl欧n 芒'i pherfformiad yn y cyngerdd."

"Mae llwyfan Pafiliwn Llangollen yn un mawr ond dydw i ddim yn meddwl y bydd Millie yn poeni gormod yngl欧n 芒 darllen y Neges Heddwch gan ei bod yn perfformio'n rheolaidd gyda gr诺p drama lleol."

Dywedodd Hannah Hughes, a fydd yn darllen y Neges Heddwch yn Saesneg: "Rydw i'n ei theimlo'n fraint fawr fy mod wedi cael fy newis i ddarllen y Neges Heddwch."

"Rydw i wedi bod mewn dram芒u yn barod yn yr ysgol ond erioed wedi gwneud dim byd o flaen cymaint o bobl fel y bydda i'n wneud yn y pafiliwn y diwrnod yna."

'Digon o ymarfer'

"Rydw i ychydig yn nerfus rhag ofn i mi gael rhai o'r geiriau yn anghywir ond rydw i'n si诺r y byddai'n cael digon o ymarfer cyn y cyngerdd i ofalu ein bod yn gwybod y neges gystal ag sydd bosibl."

Dywedodd Jane Hughes, mam Hannah: "Rydyn ni'n hynod o falch ohoni gan fod hon yn gamp anhygoel."

"Mae'n hwn yn gyfle unwaith mewn bywyd i eneth sy'n byw yn Llangollen gan ei bod hi a'i hysgol yn cael lle blaenllaw yn y Neges Heddwch."

Cynhelir Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 2013 rhwng Gorffennaf 9 a 14.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol