大象传媒

Airbus A350 yn hedfan am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Airbus A350Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r A350 yn cael ei gweld fel hanfodol i ddyfodol cwmni Airbus er mwyn cystadlu gyda Boeing

Mae awyren newydd cwmni Airbus wedi hedfan am y tro cyntaf fore Gwener.

Cafodd yr A350 ei chynllunio i fod yn fwy effeithlon o safbwynt tanwydd, ac mae'n cael ei gweld fel cystadleuydd i awyren newydd cwmni Boeing, y 787 Dreamliner.

Mae adenydd yr A350 yn cael eu hadeiladu yn ffatri'r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Mae'r awyren yn cael eu gweld fel hanfodol i ddyfodol cwmni Airbus.

Gadawodd yr awyren yn gadael maes awyr Touloue yn Ffrainc, lle mae'r A350 yn cael ei rhoi at ei gilydd, fore Gwener.

Ar 么l taith fer er mwyn cynnal profion, fe ddychwelodd i Toulouse.

Mae'r Dreamliner gan Boeing wedi dod yn boblogaidd ers ei thaith gyntaf yn 2009, ond bu'n rhaid atal hediadau'r awyren am gyfnod yn ddiweddar oherwydd pryderon technegol.

Mae Airbus yn honni y bydd yr A350 yn defnyddio tua 25% yn llai o danwydd na'u hawyrennau blaenorol.

Mae corff ac adenydd yr awyren wedi eu gwneud o ddenyddiau sy'n cynnwys ffibr carbon er mwyn eu gwneud yn ysgafnach.

Eisoes mae Airbus wedi derbyn dros 600 o archebion am yr awyren newydd, ond mae hynny'n llai na'r Dreamliner sydd wedi derbyn 890 o archebion.

Mae Airbus yn gobeithio cyflenwi'r A350au cyntaf cyn diwedd 2014.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol