Endaf Gremlin yn hyrwyddo Maes B
- Cyhoeddwyd
Gyda llai na deufis i fynd cyn cynnal Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r trefnwyr yn cynnal taith i hyrwyddo'r 诺yl ac i hybu'r s卯n Gymraeg.
Mae gr诺p newydd wedi'i ffurfio ar gyfer y daith, sy'n cychwyn nos Iau, Mehefin 27, yn Gwdih诺, Caerdydd.
Yn y gr诺p mae aelodau rhai o grwpiau mwyaf enwog Cymru ac mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Arts and Business Cymru drwy'r cynllun Culture Step a chyda nawdd Principality a Chwmni Ifor Williams.
Mae Mei Gwynedd (Sibrydion), Osian Williams (Candelas), Rhys Aneurin (Yr Ods), Dylan Hughes (Race Horses) a Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), rhai o enwau mwyaf cyfarwydd y byd cerddoriaeth pop wedi dod ynghyd i greu gr诺p Endaf Gremlin sydd eisoes wedi perfformio sesiwn ar C2 ar 大象传媒 Radio Cymru.
'Amseru perffaith'
Guto Brychan, Trefnydd Maes B, sy'n gyfrifol am y daith.
"Mi fuon ni'n trafod y syniad o gael Taith Maes B yn dilyn cyfarfod nifer o bobl ifanc mewn grwpiau ffocws ddiwedd y llynedd.
"Roedd yn amlwg fod galw am gyfres o gigs Cymraeg ddiwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf unwaith mae pwysau gwaith arholiadau wedi pasio.
"A be' well i'w hyrwyddo na Maes B? Mis i fynd tan yr Eisteddfod - mae'r amseru'n berffaith.
"Roeddem ni'n awyddus i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol, rhywbeth a fyddai'n cefnogi'r s卯n yng Nghymru ond hefyd yn cynnig gogwydd gwahanol.
"Fe fuon ni'n ddigon ffodus i dderbyn grant ac felly dyna benderfynu mynd ati i greu 'supergroup' gan ddod ag aelodau at ei gilydd o wahanol fandiau a genres a gweld be' gawn ni."
Y daith
Mae Mei Gwynedd yn adnabyddus fel cerddor ac fel aelod o fandiau fel Sibrydion, Big Leaves a The Peth, ac mae ganddo brofiad helaeth o drefnu a chynnal gweithdai roc a phop.
O'r cychwyn mae wedi bod yn rhan o brosiect Endaf Gremlin.
"Rhaid dweud bod yr ymateb wedi bod yn bositif iawn hyd yn hyn, a dwi'n mwynhau'r profiad yn arw ac yn falch o'r cyfle i weithio gyda chriw gwahanol o gerddorion. Rydan ni i gyd yn edrych ymlaen at y daith rwan ac at y cyfle i chwarae yn yr Eisteddfod hefyd, wrth gwrs.
"Rydan ni wir wedi mwynhau'r profiad o gydweithio a dwi'n gobeithio y bydd 'na gasgliad o ganeuon i'w ryddhau yn 2014."
Mae'r daith yn cychwyn yn Gwdih诺 yng Nghaerdydd cyn symud ymlaen i Gaerfyrddin, Bala, Caernarfon a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych pan fydd y band ar y llwyfan perfformio nos Wener ac ym Maes B nos Iau.