Eisteddfod 2014: Mil yn dathlu

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Rhiannon Michael

Gorymdeithiodd mil o bobl trwy strydoedd Caerfyrddin i ddathlu seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir G芒r 2014.

Fel yn 2000, y tro diwethaf y cynhaliwyd y brifwyl yn y sir, bydd Eisteddfod 2014 yn cael ei chynnal yn nhref Llanelli.

Wrth i bobl o bob cwr o'r sir ddod ynghyd i ddathlu, dywedodd Gethin Thomas, cadeirydd y pwyllgor gwaith:

"Mae bwrlwm amlwg iawn yma yn nhre Caerfyrddin heddiw, ac yn ystod y chwe mis diwethaf, mae pawb wedi bod yn brysur ledled y sir, yn ceisio codi arian.

"Tri chant ac ugain o filoedd yw'r nod, ac o fewn chwe mis, mae'n bleser cyhoeddi heddiw bod can mil wedi ei gyrraedd."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Dr Christine James ei hurddo'n archdderwydd

Urddo'r Archdderwydd benywaidd cyntaf

Cafodd Dr Christine James ei hurddo yn Archdderwydd yn ystod y seremoni - yr Archdderwydd benywaidd cyntaf erioed.

Fe enillodd Mrs James y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am gasgliad o gerddi oedd wedi eu hysbrydoli gan waith celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn 2002 ac mae'n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010.

Yn siarad cyn y seremoni, dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru: "Bydd y Seremoni'n ddigwyddiad hanesyddol wrth i'r Archdderwydd nydd, Christine James, gael ei hurddo.

"Christine yw'r ferch gyntaf i'w hurddo fel Archdderwydd a chan mai yn nhref Caerfyrddin y cychwynnwyd y cysylltiad gyda'r Orsedd a'r Eisteddfod yn 1819 mae'n addas iawn bod yr Orsedd yn dychwelyd i Gaerfyrddin ar gyfer y diwrnod hanesyddol yma."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Disgrifiad o'r llun, Daeth dros fil o bobl i orymdeithio ar hyd strydoedd Caerfyrddin