大象传媒

Rhyddhau uwchswyddogion cyngor ar fechn茂aeth

  • Cyhoeddwyd
Cyngor CaerffiliFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor wedi cadarnhau bod yr heddlu wedi arestio dau uwchswyddog.

Mae dau o uwchswyddogion Cyngor Caerffili wedi eu rhyddhau ar fechn茂aeth ar 么l iddyn nhw gael eu harestio gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Mawrth.

Un o'r ddau a gafodd eu harestio oedd y prif weithredwr Anthony O'Sullivan.

Roedd yr heddlu yn eu holi ar amheuaeth o dwyll a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae'r heddlu'n ymchwilio yn sgil adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

Dywedodd y cyngor eu bod yn cydweithio'n llawn.

Arwain

Mae Sandra Aspinall, dirprwy brif weithredwr gweithredol y cyngor sir, wedi dweud y byddai'n arwain y cyngor tan y byddai trafodaethau pellach.

"Byddwn yn canolbwyntio o hyd ein hymdrechion ar ddarparu gwasanaethau o safon uchel i bobl leol ac ni fydd digwyddiadau diweddar yn effeithio ar ein hymroddiad ni."

Gofynnodd Heddlu Gwent i Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ystyried adroddiad SAC ym mis Mawrth.

Adolygu

Roedd yr adroddiad yn argymell bod y cyngor yn adolygu ei ddulliau gweithredu, yn enwedig mewn cysylltiad 芒 hysbysebu cyfarfodydd.

Er bod Heddlu Gwent wedi edrych ar yr adroddiad eu hunain fe ofynnon nhw am help y llu arall gan fod ganddyn nhw "berthynas weithiol" gyda'r cyngor.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf fod yr ymchwiliad yn parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol