大象传媒

Adolygu gwariant iechyd

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr adolygiad i lefelau cyllideb y gwasanaeth iechyd yn digwydd yn yr haf meddai Mark Drakeford

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi adolygiad i lefelau cyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Bydd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf gan Mr Drakeford a'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn dadlau ers amser maith nad oes digon yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd.

Ers blynyddoedd bellach mae'r byrddau iechyd wedi bod yn derbyn yr un faint o arian a'r flwyddyn flaenorol, sy'n golygu eu bod nhw'n gorfod darganfod ffyrdd i dalu am gostau chwyddiant eu hunain.

Mae gan bob un ddyletswydd cyfreithiol i daro eu targedau ariannol bob blwyddyn.