大象传媒

Llywodraeth DG yn asesu effaith datganoli treth stamp

  • Cyhoeddwyd
Tai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y byddai cael rheolaeth ar dreth stamp yn hybu'r farchnad dai ac yn cefnogi'r diwydiant adeiladu

Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori gyda busnesau a ddylai Llywodraeth Cymru gael rheolaeth ar dreth stamp.

Cyhoeddodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander hyn yn y Senedd ddydd Mercher.

Dyma un o brif argymhellion adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli ond mae gweinidogion eisiau asesu'r effaith ar y diwydiant tai ac adeiladu cyn bwrw 'mlaen ag unrhyw gynlluniau.

Bydd Llywodraeth y DU yn ystyried "mynediad yn gynnar" fel bod modd benthyg arian ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt: "... rydym yn dal i aros am ymateb llawn i adroddiad Comisiwn Silk.

"Yn wreiddiol, roedd i fod i ddod yn y gwanwyn.

'Yn hollbwysig'

"Oherwydd ein trafodaethau rwy'n disgwyl y bydd materion yn cael eu setlo ym Medi.

"Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn dilyn ein hamserlen deddfwriaeth ddrafft fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref."

Bydd ymgynghoriad tan yr hydref pryd mae disgwyl i Lywodraeth y DU roi ei hymateb yn llawn i Adroddiad Silk.

Mae'r adroddiad yn argymell rhoi rhagor o rymoedd i Lywodraeth Cymru i amrywio trethi.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rheolaeth ar dreth stamp, sy'n cael ei thalu ar werthiant eiddo, yn hollbwysig i hybu'r farchnad dai a chefnogi'r diwydiant adeiladu. Byddai hefyd yn dod ag incwm i Fae Caerdydd, fyddai'n galluogi gweinidogion i weithredu pwerau benthyca newydd.

Ond mae gweinidogion yn San Steffan eisiau asesu'r effaith bosib o gyflwyno trethi amrywiol ar fusnesau'r naill ochr neu'r llall i glawdd Offa.

'Siom fawr'

Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi beirniadu amseru a chynnwys datganiad y llywodraeth.

Dywedodd ei fod yn tanseilio gwaith y comisiwn trwy ohirio trosglwyddo pwerau ariannol hollbwysig i Gymru.

"Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers amser y byddai trosglwyddo pwerau a fyddai'n creu swyddi yng Nghymru yn ffordd dda o adfer economi Cymru.

"Byddai gweithredu argymhellion y Comisiwn Silk yn mynd rhywfaint o'r ffordd i wneud hyn ac felly mae'n siom fawr gweld datganiad fel hyn sydd heb unrhyw ddatblygiad arwyddocaol ar 么l disgwyl wyth mis.

"Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi addo ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb yn llawn ym mis Medi. Mae'n sobr i bobl Cymru eu bod ond yn cyhoeddi'r ymateb ysgrifenedig anelwig hwn ar drothwy gwyliau haf y Senedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol