大象传媒

Cyhoeddi enillwyr Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Heini Gruffudd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heini Gruffudd ennillodd y wobr Gymraeg, tra bod Rhian Edwards wedi dod i'r brig yn Saesneg

Mae llyfrau gorau'r llynedd wedi cael eu gwobrwyo yn seremoni Llyfr y Flwyddyn yng Nghaerdydd.

Heini Gruffudd ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth Gymraeg am ei gyfrol 'Yr Erlid'.

Mae'r llyfr yn olrhain hanes ei fam a'i theulu yn yr Almaen, dan reolaeth y Nats茂aid yn ystod yr ail ryfel byd.

Rhian Edwards oedd enillydd y brif wobr Saesneg, am ei llyfr barddoniaeth, 'Clueless Dogs'.

Penderfynodd y beirniaid eleni, Alun Gibbard, Bethan Elfyn ac Elin ap Hywel, mai hanes ffeithiol-greadigol Heini Gruffydd o garu, cas谩u a lladd oedd yn haeddu'r brif wobr.

Gwobrau eraill

Aneirin Karadog ddaeth i'r brig yn y categori barddoniaeth.

Dewiswyd cyfrol gyntaf y bardd a chyflwynydd teledu, 'O Annwn i Geltia' gan y beirniaid.

'Blasu' gan Manon Steffan Ros oedd yn fuddugol yng nghategori'r ffuglen orau.

Ym mhleidlais y bobl, cyfrol farddoniaeth 'Trydar Mewn Trawiadau' gan Llion Jones enillodd, a chafodd y bardd waith celf arbennig yn wobr.

Yn Saesneg, John Harrison sydd wedi dod i'r brig yn y categori Ffeithiol-greadigol gyda'i lyfr taith 'Forgotten Footprints', a James Smythe yw enillydd y categori Ffuglen gyda'i nofel 'The Testimony'.

Cafodd enillydd pob categori wobr o 拢2,000, gyda 拢6,000 yr un i enillwyr y brif wobr yn Gymraeg a Saesneg.

Hefyd gan y 大象传媒