Rhannu costau brechu moch daear
- Cyhoeddwyd
Mae prif filfeddyg Cymru wedi cydnabod bod y broses bresennol o frechu moch daear yn rhy ddrud, gan alw am rannu'r gost o frechu.
Ym mlwyddyn gyntaf rhaglen frechu'r llywodraeth, cafodd bron i 拢1 miliwn ei wario mewn un ardal frechu ddwys yn ne orllewin Cymru, gyda 60% o hynny yn cael ei wario ar gostau staffio.
Llynedd, cafodd 1,400 o foch daear eu brechu ar gost o 拢600 yr un.
Ond byddai'n rhy ddrud i weithredu cynllun tebyg dros Gymru, ac felly mae'r llywodraeth yn galw ar ffermwyr ac elusennau i rannu'r gost.
Grantiau
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi 拢250,000 y flwyddyn am y 5 mlynedd nesaf i'w roi mewn grantiau i elusennau a ffermwyr i helpu gyda chostau brechu.
Y bwriad yw y bydd elusennau, ffermwyr a pherchnogion tir hefyd yn cyfrannu at y gost, unai yn ariannol neu drwy helpu i staffio'r gwaith.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru Dr Christianne Glossop bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi gofyn am syniadau am sut i ehangu'r cynllun brechu dros Gymru.
"Mae'r gweinidog nawr wedi cytuno i greu cronfa fydd yn cefnogi'r gwaith brechu gyda grantiau," meddai.
Mae'r cynllun yn golygu 拢1.25 miliwn o wariant ychwanegol gan y Llywodraeth dros y 5 mlynedd nesaf, yn ogystal 芒'r hyn sydd wedi ei addo yn barod fel rhan o'r cynllun brechu gwreiddiol.
Er y costau uchel, mae'r prif filfeddyg wedi amddiffyn y cynllun.
"Mae angen i ni ddefnyddio arian y llywodraeth yn y modd gorau posib," meddai.
"Ond roedden ni'n ymwybodol bod brechu yn broses ddrud ers y dechrau, ac roedd angen i ni sicrhau bod yr holl fanylion yn gywir yn yr ardal gyntaf yn ne Cymru."
Ni fyddai'r Llywodraeth yn gallu talu costau mor uchel dros Gymru, ac mae'r cynllun yma yn ceisio sicrhau bod y costau yn cael eu rhannu rhwng elusennau, ffermwyr a pherchnogion y tir yn y dyfodol.
Ymateb
Dywedodd dirprwy bennaeth NFU Cymru, Stephen James:
"Fel undeb dydyn ni erioed wedi gwrthwynebu brechu, ond pan mae'r gost dros 拢600 i bob anifail dydy hynny ddim yn fforddiadwy i ffermwyr cyffredinol."
"Os oes modd lleihau'r gost, ac rydyn ni'n ffyddiog bod brechu yn gweithio, bydd llawer o ffermwyr yn gefnogol."
Bydd ymgynghoriad ar y cynllun yn cael ei gynnal nawr fydd yn rhoi cyfle i awdurdodau amaethyddol roi eu barn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd14 Awst 2012