Archdderwydd yn agor yr Orsedd gyda neges amserol
- Cyhoeddwyd
Mae Gorsedd y Beirdd Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 wedi ei hagor gyda galwad i "addasu ac ailgreu" er mwyn sicrhau "dadeni'r iaith Gymraeg".
Hon yw Eisteddfod gynta'r Archdderwydd, y Prifardd Christine James, y ferch gynta' a'r cynta' o deulu di-Gymraeg i fod yn Archdderwydd.
Oherwydd y glaw cafodd y seremoni fore Llun ei chynnal yn y Babell L锚n yn hytrach nag wrth Gylch yr Orsedd.
Roedd nifer o aelodau newydd yn cael eu hurddo yn ystod y seremoni, gan gynnwys prif enillwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.
R么l amlwg
Yn ei hanerchiad cyfeiriodd yr Archdderwydd at r么l amlwg Dinbych a'r ardal yn hanes maes cyhoeddi a golygu yng Nghymru, gan gyfeirio yn benodol at unigolion fel Thomas Gee a Kate Roberts.
Cychwynnodd drwy leisio ei barn ar ddyfodol hen adeilad Gwasg Gee yn y dre'.
Mae 'na bryder yn lleol fod cyflwr yr adeilad wedi dirywio am ei fod wedi bod yn wag er blynyddoedd ac mae ymddiriedolaeth wedi bod yn ceisio achub y safle a'i droi'n amgueddfa i gofnodi hanes y diwydiant cyhoeddi yn yr ardal.
"Rwy'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod hen adeilad Gwasg Gee yn cael ei agor i'r genedl gyfan," meddai Christine James.
Cyfeiriodd hefyd at ddylanwad rhai fel William Salesbury - un o ysgolheigion mwya' Cymru yng nghyfnod y Dadeni Dysg, a fu'n gyfrifol, gyda Thomas Huet, am gyfieithiad cyntaf cyflawn y Testament Newydd i'r Gymraeg.
'Esiampl i Gymry ifanc'
Dywedodd yr Archdderwydd fod gennym lawer i ddysgu oddi wrth rywun fel Salesbury.
Yn gyntaf, meddai, roedd yn "esiampl i Gymry ifanc" y dyddiau hyn.
Er y "gallai'r ysgolhaig fod wedi cael gyrfa ddisglair iddo'i hun y tu hwnt i Gymru, daeth 芒'i ddysg yn 么l i Gymru," meddai.
Dywedodd y Prifardd Christine ei bod yn gobeithio y byddai Cymry ifanc sy'n mynd dros y ffin i gael eu haddysg a'u hyfforddiant heddiw yn "teimlo'r un angerdd, ac yn dod adre' i wasanaethu a chyfoethogi'n cenedl" yn yr un modd ag y gwnaeth Salesbury.
Cyfeiriodd hefyd at neges yr ysgolhaig - "mynnwch ddysg yn eich iaith" - a phwysleisiodd yr Archdderwydd fod gan y Gymraeg "yr adnoddau i drafod y pynciau mwya'". Ychwanegodd mai'r un yw'r cyfrifoldeb heddiw.
"Gwae ni pan beidia'r Gymraeg 芒 bod yn gyfrwng addas i fynegi ein hunain," meddai.
'Technolegau newydd'
Dywedodd mai her arall oedd "manteisio ar dechnolegau newydd i hybu'r iaith". Cyfeiriodd at ymdrechion yr Eisteddfod Genedlaethol drwy ddyfeisiadau fel yr "ap" a'r wefan newydd.
"Mae'n briodol iawn mai yma yn Ninbych mae hyn yn digwydd," ychwanegodd.
Gorffennodd trwy s么n am yr iaith Gymraeg yn addasu.
"Cael ei haddasu mae iaith, cael ei hail-greu a'i dadeni gan ei siaradwyr. Dyna wir ystyr dadeni.
"Dyna'r her i Salesbury, a dyna'r her i ni yma yn Ninbych eleni," meddai.