大象传媒

Adroddiad Silk: Cael ei gymryd o 'ddifri'

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae comisiwn Silk ar hyn o bryd yn adolygu pwerau presennol y Cynulliad Cenedlaethol

Mae oedi Llywodraeth San Steffan yn ymateb i adroddiad Comisiwn Silk yn dangos eu bod nhw'n cymryd yr argymhellion o ddifri, yn 么l un o aelodau'r bwrdd.

Roedd y glymblaid yn Llundain yn wreiddiol wedi dweud y byddent yn ymateb yn ystod y gwanwyn, ond maent yn dweud na fydd yr ymateb yn barod tan yr hydref erbyn hyn.

Roedd yr adroddiad yn dod i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i osod rhai trethi:

"Dw i'n credu bod e yn dangos bod nhw wedi cymryd yr adroddiad o ddifri a bod y trafodaethau mewnol si诺r o fod wedi bod o ddifri a 'dw i yn gweld hynny yn rhywbeth cadarnhaol," meddai'r Athro Noel Lloyd.

"Mae'n bwysig iawn bod pawb yn edrych ar yr adroddiad yn ei grynswth gan gofio bod y comisiwn wedi gwneud yr argymhellion yn unfrydol."

Treth stamp

Ym mis Gorffennaf fe ddywedodd Llywodraeth San Steffan y byddent yn cynnal ymgynghoriad yngl欧n 芒 rhoi'r grym i wleidyddion bae Caerdydd osod treth stamp. Anghytuno fod hyn yn tanseilio gwaith y comisiwn wna'r Athro Lloyd:

"Mi wnaethon ni 33 o argymhellion, pecyn os ydych chi moyn o ystod eang o bethau o fewn y maes yna. Fe gas yr adroddiad dderbyniad da o bob man a dweud y gwir ac rydyn ni yn edrych ymlaen at ymateb y llywodraeth ar 么l iddyn nhw wneud yr ymgynghoriad yma ar un peth yn benodol sef treth stamp.

"Maen nhw yn ei alw fe yn ymgynghoriad byr wedi ei ffocysu ac felly erbyn bydd hwnna wedi ei orffen rydyn ni yn gobeithio clywed yr ymateb i'r adroddiad cyfan yn yr hydref."

Ymateb da

Erbyn hyn mae'r comisiwn Silk yn adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r setliad datganoli sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Maent wedi cynnal cyfarfodydd ar draws Cymru ac yn dweud bod yr ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn dda:

"Mae'r niferoedd wedi bod yn reit dda, yn enwedig mewn rhai ohonyn nhw wedi bod yn dda iawn oherwydd i gymharu 芒 rhan un mae'r ystod pynciau yn eang iawn ac arbenigol.

"Rydyn ni yn reit gyffyrddus a hapus gyda'r niferoedd sydd wedi dod ac yn fwy na hynny gyda'r diddordeb a'r ffaith fod cymaint o bobl wedi cyfrannu tystiolaeth sydd yn dangos bod nhw yn deall yr issues fel petai."

Ar faes yr Eisteddfod a gydag wyth wythnos nes bod yr ymgynghoriad yn dod i ben, mae Noel Lloyd yn annog pobl i ddweud eu dweud. Mae'n ffyddiog y bydd modd dod i gonsensws unwaith eto er mwyn llunio'r ail adroddiad er bod cynrychiolwyr o'r pedair prif blaid wleidyddol yn rhan o'r gr诺p.

Eraill i benderfynu

Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi dweud nad ydynt eisiau gweld unrhyw newid "radical" i'r drefn bresennol ac wedi awgrymu y dylai rheolaeth dros blismona, darlledu a phrosiectau ynni mawr aros yn San Steffan.

Dywed mai penderfyniad y gwleidyddion fydd derbyn neu wrthod unrhyw argymhellion a ddaw ac mae ei gwaith nhw fel comisiwn yw llunio'r adroddiad:

"Mi fydd ein hargymhellion ni yn seiliedig ar y dystiolaeth rydyn ni wedi casglu ac mae hwnnw wedi bod yn ystod eang o dystiolaeth o bob math o sefydliadau ac unigolion.

"Ein tasg ni yw cyflwyno argymhellion sydd 芒 chefnogaeth cyffredinol yng Nghymru ac i eraill i benderfynu os yw derbyn neu beidio."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol