大象传媒

'Diffyg terfysg' yn sbardun i gerddi

  • Cyhoeddwyd
Enillydd y Goron, Ifor ap Glyn, gyda'r Archdderwydd Christine
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillydd y Goron, Ifor ap Glyn, gyda'r Archdderwydd Christine wedi'r seremoni

Er mai 'Terfysg' oedd testun y gystadleuaeth a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013 i Ifor ap Glyn, dywedodd y bardd mai prinder terfysg sydd y tu 么l i'w gerddi.

Y diffyg terfysg a ddilynodd gyhoeddi ffigurau Cyfrifiad 2011, oedd yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

"Mi fasa rhywun yn medru dadlau nad oes yna, o ddarllen y cerddi, rhyw lawer o derfysg yn y casgliad - ond dyna'r pwynt," meddai.

"Mae'r cerddi yn ymateb i ffigurau'r cyfrifiad diwethaf lle gwelwyd eto gwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg ar 么l cynnydd bychan yn 2001. Ond lle'r oedd yr ymateb i hynny?

"Roeddwn i'n teimlo nad oedd rhyw lawer o ymateb ond bod bywyd yn mynd yn ei flaen. 'Doeddan nhw ddim wedi ysgogi rhyw derfysg o brotest a dyna oedd man cychwyn y cerddi," meddai.

Dywedodd y byddai wedi gwerthfawrogi mwy o ymateb nag a fu, er nad oedd ychwaith "yn annog pethau gwyllt", ond byddai wedi disgwyl mwy o ymateb nag a fu i argyfwng o'r fath.

'Argyfwng'

Ond er cymaint argyfwng y Gymraeg, pwysleisiodd bod angen ystyried hwnnw yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd i ieithoedd bregus eraill.

"Y mae argyfwng ac argyfwng," meddai mewn cynhadledd i'r wasg wedi iddo ddod oddi ar lwyfan y Brifwyl.

"Yr ydw i newydd fod yn Washington mewn g诺yl i ieithoedd sydd dan fygythiad dros y byd. Wel, yn y cyd-destun yna mae'r Gymraeg megis rhyw supernova efo cannoedd o filoedd o siaradwyr," meddai.

Ond yno yr oedd un iaith 芒 chyn lleied 芒 150 o siaradwyr.

"Felly, mae argyfwng ac argyfwng a dydi ein hargyfwng ni ddim 'run fath 芒'u hargyfwng nhw ond o'r herwydd efallai bod yna fwy o her yn ein hargyfwng ni achos mae modd inni droi pethau rownd gyda'r Gymraeg ac mae digwyddiad fel yr Eisteddfod yn dyst o wytnwch ein hiaith," meddai.

O'r herwydd dywedodd mai ar nodyn gobeithiol y mae ei gerddi yn gorffen.

"Creadur gwydr hanner llawn ydw i," meddai. "Tra bo bywyd mae gobaith, ac o gymharu 芒 phethau mewn gwledydd eraill mi allai pethau fod lot yn waeth. Mae yna hen ddihareb Bwylaidd nad oes yna ddim byd mor wael fel na fedar o fynd yn waeth," meddai.

Dwy goron

Hon yw ail Goron Ifor ap Glyn. Enillodd ei gyntaf ym M么n yn 1999 ac yr oedd mewn cyfyng gyngor pan ofynwyd iddo pa un o'r ddwy goron fyddai'n golygu fwyaf iddo.

"Cwestiwn anodd. Mi fyddai'n ormodiaith dweud fod 'mod i'n hogyn lleol [i sir Ddinbych] ond mae yn wir imi fyw yn y dyffryn am ddwy flynedd ar 么l priodi rhyw chwarter canrif yn 么l.

"Mi fydd y goron hon - sydd wedi ei hysbrydoli gan y bryniau o'n cwmpas ni'r fan hyn, y bryniau y bues i'n byw yn eu canol nhw ar lawr y dyffryn sy'n rhedeg rhyngddyn nhw, mewn cyfnod arall yn fy mywyd - mi fydd y goron hon yn gymaint yn fwy arwyddocaol imi. Mae hi'n hardd," meddai.

Bydd y rhai sy'n gyfarwydd 芒 cherddi Ifor ap Glyn yn sylwi bod newid arddull yn ei gerddi buddugol.

"Mi fues i mewn rhyw weithdy cyfieithu yn yr Alban ddechrau mis Mawrth efo beirdd o Wlad yr I芒, Latfia a'r Ffindir ac un o'r Alban ac yr oedd y rhai o Ewrop i gyd yn 'sgwennu rhyw ddarnau dipyn yn fyrrach na'r hyn fydda i'n arfer ei wneud.

"Ac wrth gyfieithu mae'n gyfle ichi feddiannu llais rhywun arall a'u ffordd nhw o wneud pethau ac roedd hynny yn dipyn o ysgogiad i ffurf y cerddi achos 18 o gerddi byrion ydyn nhw [yn y gystadleuaeth] o gymharu 芒 dalen neu fwy yn arferol," meddai.

Eglurodd eu bod yn gerddi byrion sy'n torri yn eu blas fel petai.

"A bod hynny efallai yn adlewyrchiad o'r ffordd y mae pethau'n gallu dadfeilio," meddai gan awgrymu y bydd yn arbrofi ymhellach gyda'r dull hwnnw hwn.