大象传媒

Croesawu galwad Archdderwydd

  • Cyhoeddwyd
Christine James

Mae aelod o'r Comisiwn Cydraddoldeb wedi croesawu sylwadau'r Archdderwydd yngl欧n 芒 cheisio denu mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i'r Orsedd.

Gwnaeth Christine James, sydd ei hun wedi dysgu'r Gymraeg, yr alwad yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych.

Dywedodd Aled Edwards, Aelod Cymru o Bwyllgor Anabledd y Comisiwn Cydraddoldeb, fod ei sylwadau hi'n "fynegiant o Gymru sy'n newid".

"Lle mae yna Gymry o gefndiroedd gwahanol yn cyfrannu rhaid i ni ddathlu eu cyfraniad," meddai Mr Edwards.

Roedd yr Archdderwydd wedi dweud bod angen denu mwy o ddysgwyr.

"Hoffwn weld mwy a mwy o bobl yn dod i mewn i'r Orsedd o gefndir gwahanol," meddai Christine James ar raglen Post Cynta Radio Cymru.

Disgrifiad,

Christine James yn cael ei holi ar raglen y Post Cynta

"Dwi fy hun wedi dysgu Cymraeg ac mae yna le i fwy o ddysgwyr ddod i mewn i'r Orsedd.

"Mae'n rhaid eich bod chi yn siarad Cymraeg ac mae'n rhaid eich bod chi'n rhugl ond byddai'n braf iawn croesawu mwy o bobl sydd wedi dysgu Cymraeg.

"Ond mae yna llawer iawn o bobl o gefndiroedd gwahanol, o gefndir ethnig, sydd wedi meistroli'r Gymraeg ac yn cyfrannu'n helaeth i'w cymunedau nhw.

"A byddai'n braf iawn gweld rhain yn dod yn aelodau."