大象传媒

Clwb golff Aberteifi'n anhapus 芒 chynllun tyrbin gwynt

  • Cyhoeddwyd
Clwb Golff Aberteifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhai'n pryderu y byddai'r tyrbin yn effeithio ar y golygfeydd o afon Teifi ac arfordir Bae Ceredigion sydd i'w gweld o'r clwb

Ni fydd cynlluniau i adeiladu tyrbin gwynt yn Aberteifi yn mynd yn eu blaen wedi i berchennog y tir newid ei feddwl.

Penderfynodd Huw Jones o Ferwig na fyddai'n caniat谩u i Awel Deg adeiladu ar ei dir yn dilyn llu o wrthwynebiad gan bobl leol a golffwyr.

Roedd rhai cwyno y byddai'r datblygiad yn cael effaith andwyol ar Gwrs Golff Aberteifi oedd ond rhyw ychydig gannoedd o lathenni i ffwrdd.

Ddechrau'r mis fe wnaeth cant o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddi yn y clwb golff lle dywedodd aelodau y byddai'r tyrbin gwynt yn effeithio ar allu'r clwb i ddenu digwyddiadau fel Pencampwriaeth Timau Merched Cymru a gynhaliwyd yno ym mis Mehefin

Yn 么l y clwb, roedd y digwyddiad wedi cyfrannu 拢100,000 i'r economi leol. Eu pryder yw y gallai cysgodion yn symud a s诺n y tyrbin effeithio ar y golffwyr.

Dywedodd Lyndsay Morgan, aelod o bwyllgor gweithredol y clwb:

"Prif atyniad y clwb yw'r golygfeydd... ond allan o gornel y llygad - bydd 'da chi dyrbin gwynt enfawr yn troi... alla i ddim gweld y bydd yn ddim byd ond andwyol i'r profiad golffio."

Bydd Awel Deg nawr yn dechrau chwilio am safle arall yn yr ardal er mwyn adeiladu'r tyrbin maen nhw'n honni fyddai'n darparu p诺er ar gyfer 300 o dai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol