大象传媒

Dechrau difa moch daear yn Sir Gaerloyw a Gwlad yr Haf

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i 5,000 o foch daear gael eu difa

Mae'r awdurdodau yn Lloegr wedi dechrau difa moch daear oherwydd dau gynllun peilot.

Y disgwyl yw y bydd 5,000 yn cael eu lladd o fewn chwe wythnos yn Siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf.

Dywedodd gwrthwynebwyr fel yr RSPCA fod y cynllun difa'n greulon ac aneffeithiol.

Ond mae cefnogwyr wedi dweud bod y difa'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael 芒 dici芒u mewn gwartheg.

Fis Mawrth 2012 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn rhoi'r gorau i gynllun difa.

Roedd y polisi gwreiddiol wedi ei fabwysiadu gan Lywodraeth Lafur-Plaid Cymru.