大象传媒

Arolwg plismona cefn gwlad yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Comisiynnydd Heddlu a Throsedd Christopher Salmon
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Christopher Salmon yn awyddus i glywed barn y cyhoedd er mwyn gwella'r wasanaeth plismona yng nghefn gwlad.

Mae dros 860 o bobl wedi ymateb i arolwg o blismona gwledig yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd y cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd ei gynnal er mwyn llunio strategaeth ar blismona mewn ardaloedd gwledig.

Bydd yr arolwg chwe-wythnos yn dod i ben ar ddiwedd y mis, a'r gobaith yw y bydd yn cyfrannu at greu cynlluniau newydd ar gyfer plismona gwledig yn y dyfodol.

Cafodd yr arolwg ei lansio wedi i'r Comisiynnydd Heddlu a Throsedd Christopher Salmon ddweud ei fod yn awyddus i gymaint o bobl 芒 phosib gael mynegi eu barn ar waith yr heddlu.

Arolwg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyfrifol am 52% o dir Cymru, ac mae llawer o ardaloedd gwledig yn rhan o hyn.

Cafodd yr arolwg ei lansio yn ystod y Sioe Frenhinol fis diwethaf, ac mae'n dod i ben ddiwedd mis Awst.

Dywedodd Comisiynnydd Heddlu Dyfed-Powys Christopher Salmon: "Rydw i'n benderfynol o gasglu barn cyhoeddus er mwyn siapio ein gwasanaethau plismona at y dyfodol.

"Heddlu Dyfed-Powys yw'r gwasanaeth mwyaf gwledig yng Nghymru a Lloegr ac felly mae angen i ni fod yn arbenigwyr yn y maes."

Dadansoddi

Bydd yr ymateb i'r arolwg yn cael ei ddadansoddi, ac mae Mr Salmon yn gobeithio y bydd y canlyniadau yn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn gwasanaethu'r ardal yn y modd gorau posib.

"Drwy gydol mis Medi bydd angen i ni ddadansoddi'r wybodaeth gan obeithio ffurfio cynnigion newydd ar ddiwedd y mis," meddai.

"Bydd mwy o gynnigion a chynlluniau gweithredu yn dilyn hynny."

Gall breswylwyr gwblhau'r arolwg ar-lein ar wefan Heddlu Dyfed-Powys, neu archebu copi papur drwy ffonio 01267 226440.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol