大象传媒

Llifogydd: 'Gwersi i'w dysgu'

  • Cyhoeddwyd
Glasdir
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llifogydd ar Ystad Glasdir, Rhuthun ym mis Tachwedd

Yn 么l adroddiad swyddogol roedd problemau gyda cheuffosydd llawn yn allweddol pan effeithiodd llifogydd ar 122 o dai ar ystad yn Sir Ddinbych y llynedd.

Yn 么l ymchwilwyr annibynnol, roedd cyflwr sgriniau gwarchod ar Ystad Glasdir yn Rhuthun o amgylch y ceuffosydd yn is na'r safon gydnabyddedig.

Doedd dim modd eu clirio'n ddiogel mewn argyfwng yn 么l yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Doedd dim bai ar y cyngor meddai'r adroddiad, ond casglodd fod yn rhaid dysgu gwersi.

122 o dai

Cafodd tua 122 o dai ar yr ystad eu heffeithio pan wnaeth Afon Clwyd orlifo ei glannau yn dilyn glaw trwm ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd pobl oedd yn byw ar yr ystad wedi clywed bod risg llifogydd o un mewn 1,000.

Dywedodd yr adroddiad fod y llifogydd yn ganlyniad i dywydd "eithafol".

Bu ymchwilwyr annibynnol yn casglu tystiolaeth ynghylch pam y gwnaeth yr afon orlifo, a allai hynny ddigwydd eto, a sut y dylid gweithredu yn y dyfodol.

Dywed yr adroddiad fod y sgriniau wedi eu dylunio i rwystro pobl i fynd fewn i'r ceuffosydd ond bod y sgriniau hynny wedi eu blocio, gan blanhigion yn bennaf.

Aeth ymlaen i ddweud nad oedd modd eu clirio'n ddiogel mewn argyfwng.

Mae'r sgriniau bellach wedi eu symud oddi yno, ac ni fydd rhai eraill yn cael eu gosod yn eu lle.

'Nifer o wersi'

Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Mohammed Mehmet: "Mae yna nifer o wersi i ni yn sicr.

"Mae yna nifer o wersi a nifer o bethau y gellid fod wedi eu gwneud yn well.

"Dwi ddim yn meddwl y gellwch chi ddweud "ie oherwydd roedd e wedi blocio, cyfrifoldeb y cyngor oedd e'," ychwanegodd.

Dywedodd Mr Mehmet y byddai'r cyngor yn gofyn i'w aelodau gymeradwyo'r argymhellion yn yr adroddiad, sydd yn cynnwys cynnal archwiliadau rheolaidd o'r amddiffynfeydd a chael rhwydwaith o wardeiniaid llifogydd i fonitro gorlifdiroedd a cheuffosydd.

Yng nghasgliadau'r adroddiad, dywed yr awdur Dr Jean Venables: "Mae synnwyr trannoeth yn beth ardderchog ond welwn ni ddim unrhyw dystiolaeth fod y penderfyniadau a wnaed ar y pryd yn unrhyw beth heblaw rhesymol."

Ond, fe ychwanegodd y byddai pethau yn cael eu gwneud yn wahanol nawr.

'Adfer hyder'

Dywedodd Cymdeithas Preswylwyr Glasdir ei fod yn "ddiolchgar" i'r ymchwilwyr am ddarparu datrysiad.

Ond dywedodd mewn datganiad na all y preswylwyr anghofio effaith ddinistriol y llifogydd ar eu cymuned.

Dywedodd Ian Smith, rheolwr gyfarwyddwr Taylor Wimpey North West, a adeiladodd yst芒d Glasdir: "Mae hi wastad wedi bod yn fwriad gan Taylor Wimpey i chwarae ei ran mewn adfer hyder yn natblygiad Glasdir ac fe fyddwn ni'n gweithio'n agos gyda'r cyngor ac asiantaethau eraill fel bod modd gweithredu datrysiadau ymarferol priodol.

"Rydym yn parhau'n ymrwymedig i sefydlu amodau fydd yn caniat谩u i werthiant tai ar y safle i ail-ddechrau fel bod gweithgarwch adeiladu yn gallu ail-ddechrau, gyda'r bwriad o gwblhau datblygiad pob un o'r 178 eiddo yng Nglasdir a gynlluniwyd yn wreiddiol."

Yn eu hadroddiad hwythau ar y llifogydd, cyfeiriodd Asiantaeth yr Amgylchedd (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) at y ceuffosydd hefyd.