大象传媒

Carchar Wrecsam: Cadarnhad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

carchar

Daeth cadarnhad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai Wrecsam fydd lleoliad carchar mawr newydd yng ngogledd Cymru.

Bydd y carchar, a fydd yn gartref i dros 2000 o garcharorion, yn cael ei leoli ar hen safle ffatri Firestone.

Y disgwyl yw y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod haf 2014, ac y bydd y carchar yn agor erbyn diwedd 2017.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling:

"Mae T欧'r Cyffredin yn ymwybodol o 'nghynlluniau i foderneiddio'r yst芒d carchardai fel bod gennym ddigon o leoedd i'r rhai sy'n cael eu gyrru o'r llysoedd, ond ar gost is.

"Ym mis Ionawr fe amlinellais fy uchelgais i godi carchar newydd, ac fel rhan o'r Adolygiad Gwariant ym mis Mehefin fe gefais fuddsoddiad o 拢250 miliwn i'w godi yng ngogledd Cymru.

"Gallaf gyhoeddi heddiw, yn dilyn asesiad o nifer o safleoedd posib a gan ddibynnu ar ganiat芒d cynllunio lleol, y bydd y carchar newydd wedi ei leoli ar hen safle ffatri Firestone yn Wrecsam.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y carchar yn dal 2,000 o garcharorion, gan gostio 拢250m i adeiladu

"Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle yr haf nesaf gyda'r carchar yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2017.

"Fe fydd y carchar yn darparu hyd at 1,000 o swyddi, cyfleoedd gwych i fusnesau lleol a gwerth miliynau o bunnoedd o gyfleoedd adeiladu.

"Fe fydd hefyd yn rhoi'r carchar cyntaf erioed yng ngogledd Cymru gan ganiat谩u i droseddwyr o'r ardal fod yn agosach at eu teuluoedd."

Pryder

Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Elfyn Llwyd, sydd hefyd ar y pwyllgor dethol ar gyfiawnder wedi croesawu'r egwyddor o adeiladu carchar newydd yng ngogledd Cymru, gan ddweud y bydd y cynllun o fudd economaidd i'r ardal.

Ond yn siarad ar y Post Prynhawn, dywedodd bod ganddo amheuaeth am faint y carchar.

"Ar 么l ymgyrchu am 20 mlynedd i gael carchar yng ngogledd Cymru, dwi wrth gwrs yn croesawu'r egwyddor bod ni wedi cael carchar o'r diwedd.

"Ond dydw i ddim yn croesawu lle o'r faint yma am y rheswm bod profiad yr Unol Daleithiau wedi dangos nad ydyn nhw'n gweithio o ran adfer pobl a chael nhw'n 么l i mewn i brif lif cymdeithas ar 么l iddyn nhw adael y carchar.

"A mwy na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw'n gallu bod yn llefydd peryglus hefyd."

Cymry Cymraeg

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones:

"Mae'r ddadl dros gael carchar i'r gogledd wastad wedi bod yn un gref, a dyna pam yr wyf wrth fy modd bod Wrecsam wedi cael ei ddewis fel safle i'r carchar newydd.

"Bydd yn ei gwneud yn haws i adfer troseddwyr drwy wella mynediad ar eu teuluoedd, cyngor cyfreithiol a'r gwasanaeth prawf.

"Fe fydd hefyd o fudd i les troseddwyr Cymraeg eu hiaith trwy roi mwy o gyfle i Gymry Cymraeg siarad yr iaith mewn amgylchedd lle mae arwyddoc芒d diwylliannol hynny yn cael ei ddeall."

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud y bydd y carchar yn hwb i Wrecsam a gogledd Cymru i gyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy manylion y cynllun heb eu cadarnhau eto, ond dyma sut all yr adeilad edrych

"Bydd y carchar newydd yn creu swyddi ac yn cyfrannu yn sylweddol at economi Cymru," meddai.

"Dydy'r drefn bresennol lle mae carcharorion o ogledd Cymru yn mynd i'r carchar yn Lloegr ddim yn ddelfrydol.

"Nid yn unig ydyw'n golygu nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael, ond mae'n rhaid i'w teuluoedd deithio yn bell i'w hymweld.

"Byddwn yn gweithio yn agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru i sicrhau ei lwyddiant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol