Ffigyrau diweithdra' isaf mewn blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra wedi gostwng eto yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn ehangach, gan gyrraedd ei lefel isa' mewn blwyddyn.
Yn 么l ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd 'na 118,000 yn ddi-waith yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Gorffennaf - sy'n 7,000 yn llai na'r cyfnod blaenorol rhwng mis Chwefror ac Ebrill.
Mae'r ffigwr 14,000 yn is na'r un adeg y llynedd.
Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yng Nghymru hefyd wedi cynydd 1,000 dros y chwarter diwetha'.
Ar draws y DU, roedd 24,000 yn llai o bobl heb waith yn y cyfnod diweddara', sy'n golygu bod lefel diweithdra yn 7.7% ymhlith pobl sydd mewn oedran gwaith.
Yng Nghymru, mae'r canran yn 8% ar gyfer pobl rhwng 16 a 64 oed.
Roedd nifer y rhai sy'n hawlio budd-dal yng Nghymru wedi gostwng 1,500 ers mis Gorffennaf.
Yn gyffredinol yn y DU, roedd y ffigwr lawr 36,000 ym mis Awst, i 1.4 miliwn.
Dyma'r gostyngiad misol mwya' ers mis Mehefin 1997.
Codi cyfraddau llog?
Mae'r ffigyrau diweddara' wedi arwain at ddyfalu a fydd Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog yn gynt na'r disgwyl.
Ond mae'r anweithgarwch economaidd yng Nghymru wedi cynyddu 11,000 dros y chwarter diwetha' - sy'n golygu ei fod 3,000 y n uwch nag yr oedd ym mis Awst 2012.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS, fod y canlyniadau yn dangos gwelliant graddol ond bod yna fwy yn dal i'w wneud.
"Tra bod y ffigurau anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn siomedig, mae gennym ostyngiad sylweddol - a chalonogol iawn - mewn diweithdra.
"Mae'n amlwg ein bod eisoes wedi cyflawni llawer. Mae allforio ar i fyny, felly hefyd hyder busnesau.
"Er bod yna dipyn o ffordd i fynd, rydym yn adeiladu adferiad cytbwys, cynaliadwy ac eang sy'n gweithio i bobl yng Nghymru ac sy'n sicrhau fod Prydain yn gallu cystadlu ar y llwyfan byd eang."
Yn 么l y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, mae'n hanfodol rhoi cyfle i bobl yng Nghymru adeiladu ar eu sgiliau.
"Mae'r ffigurau'n amlwg yn newyddion da ond ddylen ni ddim eistedd ar ein rhwyfau.
"Mae diweithdra yng Nghymru, er ei fod yn gostwng, yn dal i fod llawer yn uwch na'r cyfartaledd trwy'r DU ac yn uwch na'r raddfa yn y rhan fwya' o ranbarthau yn Lloegr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2013
- Cyhoeddwyd13 Awst 2013