大象传媒

Cyfarfod yn trafod tyrbeini gwynt ym Mrechfa

  • Cyhoeddwyd

Penderfynodd dros gant o bobl ddaeth ynghyd i drafod sut y bydd Fferm Wynt Brechfa yn cael ei chysylltu 芒'r Grid Cenedlaethol mai claddu'r ceblau o dan y ddaear fyddai orau.

Cynhaliwyd y cyfarfod ym Mhencader yn Sir Gaerfyrddin ac roedd y bleidlais yn unfrydol.

Ym mis Mawrth fe basiodd Llywodraeth Prydain gynlluniau RWE npower i godi 28 o dyrbeini gwynt ym Mrechfa.

Mae ymgyrchwyr a'r cyngor sir wedi galw ar y cwmni sy'n gyfrifol am gysylltu'r fferm 芒'r grid i gladdu'r ceblau dan ddaear.

Dywedodd gwrthwynebwyr y byddai'r cynlluniau'n "dinistrio'r ardal".

Mae Western Power Distribution (WPD) wedi dweud mai ceblau uwchben y ddaear oedd y dewis gorau ond y gallen nhw ymgynghori maes o law.

Deiseb

Yr AS Jonathan Edwards a'r AC Rhodri Glyn Thomas wnaeth drefnu'r cyfarfod ym Mhafiliwn Pencader yn Llanfihangel ar Arth.

Yn Awst cychwynnodd y cyngor sir ddeiseb ar-lein yn erbyn y ceblau uwchben y ddaear.

Dywedodd Angela Marynicz, y mae ganddi d欧 haf ar ei fferm ym Mhencader, y byddai mwy o beilonau a thyrbeini'n gwaethygu'r sefyllfa.

"Mae pobol yn dod i wylio'r adar nid tyrbeini gwynt."

Ar 么l cynnal mwy o arolygon, meddai WPD, fe allai benderfynu o blaid rhai ceblau dan ddaear oherwydd rhesymau ecolegol neu dechnegol.