大象传媒

Streic diffoddwyr t芒n wythnos nesa'

  • Cyhoeddwyd
Injan d芒nFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd diffoddwyr t芒n ar streic rhwng 12:00yh a 4:00yh ar ddydd Mercher, Medi 25

Bydd diffoddwyr t芒n yng Nghymru a Lloegr yn cynnal streic ddydd Mercher nesa', Medi 25, fel rhan o anghydfod yngl欧n 芒 phensiynau.

Yn 么l yr Undeb Frig芒d D芒n, roedd bron i 80% o'u haelodau yn cefnogi gweithredu'n ddiwydiannol er bod swyddogion wedi gadael y penderfyniad tan y "funud ola'" fel bod modd cyrraedd cytundeb.

Dywedodd Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb: "Mae'r streic gychwynnol hon yn rhybudd i'r llywodraeth. Allai diffoddwyr t芒n ddim bod mwy o ddifri ynghylch amddiffyn diogelwch y cyhoedd a sicrhau pensiynau teg.

"Mae'r llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan wedi gwrthod gweld synnwyr ...

'Yn hurt'

"Mae'n hurt bod disgwyl i ddiffoddwyr ddelio 芒 thanau ac achub teuluoedd yn eu 50au hwyr.

"Bydd bywydau'r cyhoedd a'r diffoddwyr t芒n eu hunain mewn perygl.

"Does yna'r un ohonom eisiau streicio, ond allwn ni ddim cyfaddawdu ar ddiogelwch y cyhoedd a diffoddwyr t芒n."

Bydd y streic yn cael ei chynnal am bedair awr, rhwng hanner dydd a 4:00yh.

'Lleihau effaith'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn paratoi cynlluniau wrth gefn gyda'r awdurdodau t芒n a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn lleihau effaith y streic.

"Mae gweinidogion wedi cyfarfod 芒'r undeb yn gyson ac wedi dweud eu bod yn ymroddedig i gynllun pensiwn sy'n fforddiadwy, cynaliadwy a theg i holl weithwyr y sector gyhoeddus.

"Er mwyn datrys yr anghydfod mae'r undeb wedi dweud eu bod am fwy o drafodaethau 芒 gweinidogion.

"Mae ein trafodaethau wedi bod yn bositif ac yn adeiladol."