大象传媒

Ysmygu yn costio 拢800 miliwn i'r economi medd elusen

  • Cyhoeddwyd
sigar茅tsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed ASH Cymru bod angen cynnig mwy o help yn y gymuned i annog pobl i roi'r gorau i ysmygu

Mae ysmygwyr yn costio bron i 拢800 miliwn i economi Cymru yn 么l yr elusen ASH Cymru.

Yn ei hadroddiad diweddar dywed y mudiad, sydd yn ymgyrchu yn erbyn tybaco, bod hyn yn rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac ar fusnesau a bod angen gwneud mwy i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu.

Mae'r ddogfen yn nodi bod dros 拢300m yn cael ei wario ar gostau gofal iechyd a gwerth 拢41m yn cael ei golli am fod gweithwyr yn mynd am fr锚c er mwyn ysmygu yn ystod oriau gwaith.

Targed y llywodraeth

Dywed yr adroddiad bod ysmygu yn gysylltiedig gyda nifer o afiechydon sydd yn golygu bod cleifion yn gorfod cael eu trin yn yr ysbytai a bod y mwyafrif o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau iddi.

Nod Llywodraeth Cymru yw bod dim ond 16% o oedolion Cymru yn ysmygu erbyn 2020. Dywed ASH Cymru bod angen cynnig mwy o help i bobl fedru stopio os yw'r targed yn mynd i gael ei gyrraedd.

Dywed Martin Semple, Cyfarwyddwr Dros Dro Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru bod ysmygu yn faich ar adnoddau'r gwasanaeth iechyd:

"Bob dydd mae nyrsys sy'n gweithio ar draws amrywiaeth fawr o feysydd iechyd yn gweld y canlyniadau difrifol mae tybaco'n eu hachosi i iechyd, ac mae'r Coleg wedi ymgyrchu'n gyson dros fentrau i leihau nifer y bobl sy'n smygu.

"Fodd bynnag, smygu yw prif achos marwolaethau cyn pryd a chlefydau o hyd. Yn hanfodol, bellach mae angen syniadau cadarnach i atal pobl rhag smygu yn y lle cyntaf."

Help yn y gymuned

Yn 么l Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy mae'n rhaid cynnig help mewn mwy o lefydd ac yn ystod oriau mwy hyblyg i bobl:

"Mae angen i ni ddechrau mynd 芒 chymorth i roi'r gorau iddi allan i'r gymuned a chynnig mwy o sesiynau mewn gweithleoedd, canolfannau gwaith, canolfannau cymunedol a thafarnau lleol."

Mae hi hefyd yn teimlo bod angen annog pobl ifanc i beidio dechrau ysmygu ac mai un ffordd o wneud hyn yw gwneud sigar茅ts yn llai deniadol:

"Mae angen i ni ddadnormaleiddio smygu i bobl ifanc er mwyn eu hatal rhag smygu yn y lle cyntaf," meddai, "trwy wahardd y pecynnau sgleiniog sy'n gwneud i sigar茅ts edrych fel eitem ffasiwn a deddfu i wahardd smygu mewn ceir sy'n cludo plant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol