Cwestiynau dros daliadau i brif weithredwr Cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwrthod 芒 chymeradwyo cyfrifon blynyddol Cyngor Sir Penfro wedi iddyn nhw gwestiynu taliadau i'r prif weithredwr, Bryn Parry-Jones.
Ym mis Medi 2011, cafodd newidiadau eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Staff Hyn i ganiat谩u uwch-swyddogion ar gyflogau uchel i adael cynllun pensiwn y Cyngor a derbyn taliadau ariannol yn eu lle.
Mae cofnodion y cyfarfod yn dangos mai rhesymau treth oedd y prif reswm am y newid, i gadw a denu uwch-swyddogion yn y dyfodol.
Yn gynharach y mis yma, dywedodd y Swyddfa Archwilio bod rhai taliadau gan Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn torri rheolau, rhywbeth gafodd ei wrthod gan y cyngor hwnnw.
Cyfarfod preifat
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi dod i'r fei wedi adroddiad y Swyddfa Archwilio am Gyngor Sir Penfro.
Roedd chwech o gynghorwyr yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Staff Hyn, yn eu plith arweinydd y cyngor ar y pryd, John Davies a'r arweinydd presennol Jamie Adams.
Roedd y prif weithredwr ei hun, Bryn Parry-Jones, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y newid i daliadau pensiwn, ond dyw hi ddim yn glir os wnaeth e gyfrannu i'r drafodaeth.
Yn 么l y cofnodion, roedd pryder y byddai staff ar gyflogau uchel ar eu colled oherwydd newidiadau i'r system dreth.
Mae'r cofnodion yn dangos y cafodd y newid ei gytuno er mwyn cadw uwch-swyddogion yn y cyngor, a gallu denu rhai newydd yn y dyfodol.
Mae'r Swyddfa Archwilio yn dweud bod yna wahaniaeth barn rhyngddyn nhw a'r cyngor yngl欧n ag a oedd y taliadau yn briodol.
'Cyfreithlon'
Mae adroddiad ariannol blynyddol Cyngor Sir Benfro yn dangos bod y prif weithredwr wedi derbyn 拢194,661 yn cynnwys pensiwn neu daliadau cywerth.
Mae'r cyngor wedi derbyn barn gyfreithiol annibynnol sy'n dweud bod y taliadau yn gyfreithlon, ac maen nhw yn dweud nad oedd y newid yn creu unrhyw gostau ychwanegol i'r awdurdod.
"Cyngor cyfreithiol Cyngor Sir Benfro yw bod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Staff Hyn ar Fedi 28ain 2011 - i alluogi uwch-swyddogion dderbyn taliad cywerth i gyfraniad pensiwn y cyflogwr os ydynt yn gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - yn gyfreithlon," meddai'r Cyngor.
"Mae'r cynllun ar gael i bob uwch swyddog ac nid oes unrhyw gost ychwanegol i'r Cyngor pan mae swyddogion yn penderfynu 'gadael' y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
"Pwrpas cynnig 'gadael' y cynllun yw cynorthwyo recriwtio a chadw uwch swyddogion.
"Roedd y prif weithredwr, Bryn Parry-Jones, yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Staff Hyn ar Fedi 28ain, 2011, fel y byddai i bob cyfarfod o'r pwyllgor."
Craffu
Bydd y mater yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Craffu Llywodraethiant Corfforaethol Sir Benfro ddydd Llun, Medi 30ain.
Bydd Pwyllgor Craffu Sir Caerfyrddin hefyd yn cwrdd fore Gwener, Medi 27ain i drafod taliadau sydd hefyd wedi achosi pryder i'r Swyddfa Archwilio.
Mae'r Swyddfa Archwilio wedi dweud nad ydyn nhw yn ymwybodol o unrhyw gyngor arall sydd wedi cyflwyno newid tebyg.
Ond, mae Cyngor Caerffili wedi cadarnhau bod y Swyddfa Archwilio wedi codi cwestiynau am daliadau i brif swyddogion yr awdurdod. Yn yr achos hwn taliadau yn ymwneud a lwfans car a gwyliau blynyddol sydd dan sylw.
Maae'r Swyddfa Archwilio yn dweud bod y taliadau yn anghyfreithlon gan bod y penderfyniadau wedi eu gwneud gan unigolion nad oedd yn gymwys i wneud hynny yn unol a chyfansoddiad Cyngor Caerffili.
Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn disgwyl clywed casgliadau archwilydd allanol i'r mater.