Cyngor yn cymeradwyo cyfrifon dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Benfro wedi penderfynu cymeradwyo cyfrifon 2012-13 yr awdurdod er gwaethaf y ffrae ddiweddar am drefniadau pensiwn.
Dywed Swyddfa Archwilio Cymru nad ydyn nhw'n medru cymeradwyo'r cyfrifon tan i drafodaethau cyfreithiol gael eu cwblhau.
Mae llefarydd wedi cadarnhau y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Iau rhwng cyfreithwyr Swyddfa Archwilio Cymru a chyfreithwyr sy'n cynrychioli Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ar y cyd.
Mae'r ddau awdurdod yn wynebu honiadau bod eu penderfyniad i ganiat谩u i uwch swyddogion ddewis peidio bod yn rhan o'u cynllun pensiynau yn anghyfreithlon.
Clywodd y pwyllgor ddydd Llun y byddai staff ar gyflogau uwch yn elwa dros y tymor hir o beidio bod yn rhan o'r cynllun pensiwn, er y byddai'n golygu talu mwy o dreth yn y tymor byr.
Yn 么l yr arweinydd Jamie Adams, roedd yn fater syml o pryd y mae unigolyn yn dewis talu treth - ar 么l ymddeol neu pan oedden nhw'n dal i weithio.
Mae'r awdurdod yn honni bod angen trefniadau o'r fath er mwyn datblygu gallu'r cyngor i ddenu a chadw uwch swyddogion.
Hyd yma dim ond prif weithredwr Sir Benfro sydd wedi elwa o'r trefniant, ond mae'r cyngor wedi cadarnhau bod un person arall - sy'n arwain gwasanaeth - hefyd nawr yn elwa.
Mae chwe aelod o'r pwyllgor wedi beirniadu'r modd y gwnaed y penderfyniad, gan gwestiynu'r angen i eithrio'r cyhoedd o'r penderfyniad a pheidio gofyn am farn gyfreithiol ar y pryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013