大象传媒

Cyhoeddi newid rheoli cyllidebau byrddau iechyd

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gweinidog iechyd yn dweud bydd y ddeddf yn rhoi mwy o hyblygrwydd i fyrddau iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesur fydd yn newid y ffordd mae byrddau iechyd yn rheoli eu cyllidebau.

Bydd Mesur Cyllid y GIG yn golygu y bydd angen i fyrddau iechyd fantoli eu cyllideb dros gyfnod o dair blynedd yn hytrach na blwyddyn.

Mae'r llywodraeth wedi dweud y bydd y drefn newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd ariannol i fyrddau iechyd fel bod modd iddyn nhw gynllunio'n well ar gyfer yr hir-dymor.

Ond mae gwrthwynebwyr wedi rhybuddio y gallai'r cynllun arwain at fyrddau iechyd yn gwario "yn anghyfrifol".

'Gwell cynllunio'

Bydd y drefn newydd yn dod i rym yn Ebrill.

Mae byrddau iechyd wedi ei chael hi'n anodd cadw at eu cyllidebau blynyddol er gwaetha' cymorth ariannol gweinidogion.

Hefyd mae uwchfeddygon wedi rhybuddio bod unedau gofal brys dan bwysau aruthrol.

Dywedodd y gweinidog Mark Drakeford fod y drefn bresennol yn "annog penderfyniadau tymor byr" tua diwedd y flwyddyn.

"Bydd y bil hwn yn helpu'r GIG i wneud penderfyniadau'n ymwneud 芒 chynllunio ariannol, y gweithlu a gwasanaethau dros gyfnod hwy.

"Hoffwn ddatgan yn glir - er y bydd y bil yn rhoi mwy o hyblygrwydd ariannol i fyrddau iechyd lleol, mae disgwyl hefyd iddynt ddangos eu bod yn ymgymryd 芒 gwaith cynllunio ariannol, y gweithlu a gwasanaethau mewn ffordd drylwyr."

Mae'r gweinidog hefyd wedi pwysleisio nad yw cynllunio ariannol yn ddewisiol o fewn y gwasanaeth ac y byddai'r llywodraeth yn craffu'n rheolaidd.

'Amheuaeth'

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyllid, Peter Black, fod newid y drefn yn synhwyrol am fod y system un flwyddyn yn anghynaliadwy.

Ond dywedodd: "Fy mhrif amheuaeth gyda'r cyllidebau tair blynedd yw y bydd y Llywodraeth Lafur a'r byrddau iechyd yn anghyfrifol ac y gallai hyn arwain at lawer iawn o ddyled.

"Os bydd y mesur yn llwyddiannus, bydd rhaid i'r gweinidog sefydlu system rybudd dryloyw i ni gyd fedru monitro a yw cyfrifon byrddau iechyd ar y trywydd iawn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 大象传媒 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol