Gwrthod parc gwyliau newydd ger Caergybi
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr M么n wedi gwrthod rhoi caniat芒d cynllunio i gynllun dadleuol i godi parc gwyliau ger Caergybi.
Pleidleisiodd cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio o bump i ddau ac ymataliodd un.
Bydd cyfarfod arall y cyngor yn trafod y cais oherwydd bod y pwyllgor wedi mynd yn groes i argymhellion swyddogion cynllunio.
Bwriad cwmni Land & Lakes oedd codi 500 o fythynnod ar dir oedd yn eiddo i gwmni Alwminiwm M么n ym Mharc Arfordir Penrhos.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r cynlluniau, gan ddweud y byddai'r datblygiad yn denu twristiaeth i'r gogledd-orllewin.
Ond mae gr诺p o wrthwynebwyr wedi dweud bod y cynllun yn rhy fawr.
600 o swyddi
Daeth gwaith cynhyrchu alwminiwm ar y safle i ben yn 2009 a diflannodd 400 o swyddi.
Roedd y cynllun yn cynnwys cannoedd o fythynnod ynghyd 芒 chaffis, tafarndai, siopau a meysydd chwarae.
Yn 么l Land & Lakes, byddai hyn yn creu 600 o swyddi ar y safle.
Roedd y cwmni wedi dweud y gallai 300 o unedau llety ar safle Cae Glas gael eu defnyddio gan weithwyr sy'n adeiladu gorsaf b诺er niwclear Wylfa B.
Mae prif weithredwr y cwmni wedi dweud ei bod yn hynod siomedig gyda'r newyddion a'i bod yn teimlo bod hwn yn gyfle na ddylid cael ei wastraffu. Dywed Richard Sidi y byddant yn apelio yn erbyn y penderfyniad.
Pan gafodd y cynllun ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2011, dywedodd un o'r comisiynwyr oedd yn gyfrifol am Gyngor Sir Ynys M么n ar y pryd, y gallai'r parc fod yn hwb i'r ardal.
Roedd Alex Aldridge ywedi dweud: "Mae'r awdurdod wedi bod yn cydweithio'n barhaol gydag Alwminiwm M么n a Llywodraeth Cymru er mwyn creu swyddi ar y tir sydd ar hyn o bryd ym mherchnogaeth Alwminiwm M么n.
"Mae hyn yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn er mwyn cyflawni'r nod yma.
"Mae posibilrwydd hefyd o greu rhagor o swyddi sylweddol ar yr hen safle gwaith fyddai'n hwb bellach sylweddol ar gyfer economi Caergybi a'r ynys ehangach."
Gwrthwynebiad
Ond mae gr诺p o ymgyrchwyr lleol yn erbyn y cynllun ar y sail ei fod yn rhy fawr i'r tir sydd ar gael.
Mae deiseb yn erbyn y cynllun wedi ei harwyddo gan 1,200 o bobl tra bod deiseb arall gyda 800 o enwau wedi ei hanfon at Llywodraeth Cymru.
Roedd Mike Pendragon o Gaergybi wedi dweud ei fod wedi ei frawychu gan faint y prosiect ar gyfer y safle 192 erw ym Mhenrhos.
Roedd hefyd yn feirniadol o swyddi posib fyddai'n deillio o'r cynllun.
Honnodd mai swyddi tymhorol fyddai ar gael ac nid swyddi llawn amser.
Roedd rhai hefyd wedi dweud eu bod yn pryderu am effaith y datblygiad ar wasanaethau lleol a'r iaith Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2011